Wrthi'n pacio'r cês? Gofalwch roi copi o rifyn dwbl yr haf o Barn i mewn. Os ydych yn mynd i'r Eisteddfod, bydd ein hatodiad swmpus ar Fro'r Brifwyl yn ddarllen anhepgor i chi. Prynwch y rhifyn hefyd i gael ymateb Anna Brychan i ymddiswyddiad Leighton Andrews, i weld pa un yw hoff lun Swyddog Celf yr Eisteddfod, a pham y mae awdur Cwrs y Byd yn canmol y Sun. Mae Bethan Kilfoil yn disgrifio ymweliad hanesyddol John F. Kennedy ag Iwerddon hanner canrif yn ôl, a chan aros yn y 1960au mae Derec Llwyd Morgan, mewn pennod o'i gofiant newydd i Syr Thomas Parry, yn datgelu sut y trefnwyd i'r Tywysog Charles ddod yn fyfyriwr i Aberystwyth. Darllenwch sylwadau Beca Brown am agweddau cymdeithas at anabledd corfforol, barn ein colofnydd teledu am y 'canon o anhapusrwydd Cymreig', a sawl barn arall ddi-flewyn ar dafod. A darllenwch yn ofalus – er mwyn rhoi cynnig ar ein Cwis a chael siawns i ennill pecyn o lyfrau a chrynoddisgiau newydd gwerth £80.
Emlyn Evans
Golygydd cyntaf Barn sy’n dweud ei ddweud am safon a ieithwedd ffuglen Gymraeg ddiweddar.
Yr wyf ar fin gwneud rhywbeth sydd yn wirioneddol gas gennyf, sef collfarnu llenyddiaeth fy ngwlad a’m iaith fy hun. Ond dyna sydd raid.
Ers rhai blynyddoedd, cedwais lygaid ar ffuglen Gymraeg, a’r gwir yw fy mod yn wastad yn mynd yn fwy pryderus – a thrist – yn ei chylch, o ran y cyfrwng a’r cynnwys. Cwbl atgas gennyf yw rhegi, ar lafar ac mewn print – yn neilltuol gan ferched. A merched yw awduron y rhan fwyaf o nofelau Cymraeg y cyfnod hwn. Dywedaf yn blaen fod amryw byd o’r cyfrolau a gyhoeddwyd yn y blynyddoedd diweddar yn dwyn mawr warth ar ein cenedl. Cyhoeddwyd dwy gyfrol o ‘straeon erotig’, Tinboeth a Tinboethach, y naill o ddeg stori a’r llall o ddwsin, a 21 o awduron rhyngddynt – un gwryw (sylwer) ac ugain o fenywod, ac y mae’r ieithwedd, yn gyffredinol, yn ddirmygus. Cafodd y ddau lyfr gefnogaeth ariannol gan Gyngor Llyfrau Cymru.