Beca Brown
Dwi wedi bod yn sgwennu colofn i rywun ers bron i ugain mlynedd bellach, a’r rhan fwyaf ohonyn nhw i’r cylchgrawn hwn. Mae pynciau wedi mynd a dod, a rhai – gormod ’w’rach – wedi dod rownd unwaith eto. Wel trïwch chi sgwennu rhywbeth gwreiddiol am y Steddfod neu’r Nadolig bob blwyddyn am ugain mlynedd...
Mae’r ymateb hefyd wedi mynd a dod – dim gair weithiau, ac wedyn llythyrau. Rhai i’w trysori am byth, ac ambell un sy’n neidio o’r amlen i’ch brathu chi. Yn sicr, nid wrth sgwennu colofn mae ennill enw am fod yn annwyl a hoffus.
Mae ’na ambell i golofn yn sefyll yn y cof am eu bod nhw wedi ennyn ymateb mawr, neu ymateb annisgwyl – neu’r ddau. Mi wnaeth un fy landio ar dudalennau blaen y tabloids yma yng Nghymru, am imi feiddio trio cael trafodaeth onest ac agored am y gair ‘hiliaeth’ yng nghyd-destun Cymru a Lloegr. Colofn yn ymateb i’r nofel Fifty Shades of Grey oedd un arall, a’r un fwya’ diweddar oedd colofn yn trafod y capel, a’r ffaith ’mod i wedi dechra’ mynychu un.
Dwn ’im faint o arwyddocâd sydd ’na i’r ffaith mai ysgrifau ar Saeson, secs a Christnogaeth sydd wedi ysgogi’r ymateb mwya’, ond dyna sut mae hi wedi bod hyd yma.
Yr ola’ o’r uchod dwi am ei drafod tro ’ma, a’r ymateb cymysg ac annisgwyl ges i i’r golofn ‘Mynd i’r capel’. I’r rhai ohonoch na welodd y darn hwnnw, cychwyn mynd ddaru mi yn sgil y plant, am eu bod nhw wedi gofyn i gael mynd i’r Ysgol Sul. Fy ngreddf, os ydw i’n onest, oedd i ddweud ‘na’, yn rhannol oherwydd nad o’n i erioed wedi bod i’r un oedfa – ac oherwydd rhagfarn, ofn ’w’rach, a’r ffaith nad ydw i’n credu.
Ond mi es i, a chanfod mod i’n mwynhau mynd, er ’mod i ddim bob tro yn siwr iawn pam. Doeddwn i’n sicr ddim yn cyd-weld â phob dim ddaeth o’r pulpud, ond roedd ’na rywbeth am yr iaith, y canu, y teimlad o gymuned, a’r cysylltiad cyson efo pobol hyn y pentref a oedd yn rhoi rhywbeth imi nad o’n i’n ei gael yn nunlle arall.
Roedd yr ymateb yn dilyn cyhoeddi’r golofn yn ddiddorol iawn. Derbyniais i lythyrau hyfryd gan bobol na fyddwn i byth yn disgwyl eu bod nhw’n darllen fy ngwaith i heb sôn am ei fwynhau o, a mi ges i sylwadau llawn amheuon gan bobol eraill. ‘Wt ti ’di cael tröedigaeth?’ oedd un o’r rhai mwya’ poblogaidd. Doeddwn i ddim, a dydw i ddim, ond mi rydw i’n dal i fynd i’r capel.
‘Fysa fo’m yn well i ti fynd am dro yn lle mynd i fan’na?’ oedd un arall ges i. Ond mi fyswn i’n deud bod yr hyn dwi’n ‘ei gael’ o fynd i’r capel yn rhywbeth reit debyg i’r hyn dwi’n ei gael o fynd am dro.
Weithiau, mae rhywun angen rhywbeth sy’n fwy na fo’i hun, a dyna dwi’n ei gael wrth glywed hen iaith, a chanu hen ganeuon ac wrth droedio hen lwybrau.