Gorffennaf 2016 i Awst 2016 / Rhifyn 642-643

Eisteddfod: tro i fynwy a’r cyffiniau

Euas a’r ffin

Taith mewn car sy’n croesi o Sir Fynwy i Swydd Henffordd ac yn ôl, gan gynnig cyfle i ystwytho’r cymalau a throedio rhai o lwybrau’r ardal hudol a llawn hanes hon.

Cledwyn Fychan
Mwy

Gwenynen wirioneddol ryfeddol Gwent

Mae Amgueddfa’r Fenni yn cynnal arddangosfa am Arglwyddes Llanofer... Yr hyn a’i gwnaeth yn ‘violent Welshwoman’, meddir, oedd clywed un o weision ei thad yn galaru am ddiflaniad y Gymraeg o’r fro...

Prys Morgan
Mwy
Eisteddfod: tro i fynwy a’r cyffiniau

Sir flasus

Gan fod Eisteddfod Genedlaethol 2016 wedi ei lleoli ym ‘Meca’ bwyd-garwyr Cymreig dyma, o bosib, yw’r cyfle gorau ers tro i sawru’r gorau o Gymru ar blât.

Lowri Haf Cooke
Mwy
Celf

Lliwiau ddoe a heddiw – Gwaith Catrin Williams

Mae arddangosfa ddiweddaraf Catrin Williams (yn Oriel Môn, Llangefni, hyd 7 Awst) yn deyrnged i’w rhieni. Mae hi hefyd yn ddathliad o leoedd sy’n bwysig iddi – rhai ym Mhenllyn ei magwraeth, eraill yn Llŷn, ei chynefin mabwysiedig, ac eraill eto’n fannau yr ymwelodd â nhw ar ei theithiau, yng Nghymru a thu hwnt.
‘Mi ges i gynnig arddangos yma o’r blaen,’ medd Catrin, ‘Ond doeddwn i ddim yn teimlo bod gen i ddigon o waith. Yna’r llynedd a ’leni, roedd yna rywbeth fel petai’n fy ngyrru i greu. Hwyrach fod a wnelo hynny rywbeth â cholli fy rhieni, a ’mod i rywsut, rywfodd am ddatgan fy niolchgarwch iddyn nhw am y fagwraeth arbennig a gefais i.’

Rhiannon Parry
Mwy
Refferendwm

O Ewrop – Mae’r briodas ar ben

Priodas anhapus fu hi rhwng San Steffan a Brwsel. Yr hyn a ddiflasai’r cymar Ewropeaidd oedd negyddiaeth barhaus y cymar arall. Yn ystod ymgyrch y refferendwm roedd y ddwy ochr, yr Aros a’r Gadael, yn pwysleisio’r angen i ddiwygio Ewrop. Ond Brwsel yn unig oedd yn gorfod newid ei ffyrdd. Nid Prydain. Y fath haerllugrwydd cibddall. Y fath draha. Ond heb y refferendwm fyddai hi ddim wedi bod mor amlwg pa mor ddwfn yw atgasedd y rhan fwyaf o Saeson (a’r mwyafrif, ysywaeth, yng Nghymru hefyd) tuag at yr UE...

Dafydd Ab Iago
Mwy
Refferendwm

Clep y drws

Dyma ymateb enillydd deunaw oed cadair Eisteddfod yr Urdd yn Sir y Fflint eleni, sy’n byw yn Nhonyrefail.
Dydd Iau, 23 Mehefin. Yr oeddwn yn sefyll fy arholiad olaf un ar y diwrnod hwnnw ac yn gorffen fy nghyfnod yn yr ysgol – yn cau un drws gan edrych ymlaen at agor un arall. Ond ‘clep’ enfawr yn fy wyneb a gefais i, ynghyd â phob person ifanc arall, pan ddeffrais fore Gwener a gweld bod y drws i fyd mwy goddefgar, mwy cyfiawn, mwy gobeithiol wedi’i gau. Roedd yr etholwyr wedi llyncu ymgyrch hiliol a senoffobaidd ‘Vote Leave’ ac wedi pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Gwynfor Dafydd
Mwy
Refferendwm

Doethineb Drannoeth – Cymru a BREXIT

Yn sgil y canlyniad ddiwedd Mehefin, pa reswm fydd gan Lundain dros gymryd Cymru o ddifri?
Dysgwyd llawer am Gymru yn sgil y refferendwm a phenderfyniad hunanfflangellol mwyafrif ein cydwladwyr i gefnogi’r achos dros Ymadael...
Dagrau pethau yw ein bod yn sylweddoli bellach fod patrwm y canlyniadau ar draws y Deyrnas wedi gadael Cymru yn y sefyllfa waethaf bosib wrth geisio gwneud iawn am y colledion ariannol trwm sy’n rhwym o ddilyn BREXIT...
Sut yn y byd mae osgoi canfod ein hunain yn drigolion ‘Wangland’, neu ‘Little Britain’? Ai dyna bellach fydd ein ffawd?

Richard Wyn Jones
Mwy
Materion y mis

Y wyrth yn Ffrainc

Bydd y dyddiau tesog hynny yn Ffrainc gyda ni am byth. Y Steddfod yn Bordeaux, gydag ‘Yma o Hyd’ yn cael ei chanu ar y tramiau, a’r Cymry i gyd ar y strydoedd. Cic rydd Bale yn Lens. Y rout yn Toulouse. Buddugoliaeth i wlad ‘o’r un maint â chanolfan siopa Mega Khimki’, chwedl gwasg Rwsia; buddugoliaeth i ‘gyfandir o ran emosiwn’, meddai Coleman. Gôl ryfeddol Hal Robson-Kanu yn erbyn Gwlad Belg... Beth bynnag ddigwyddith yng Nghymru yn y blynyddoedd nesaf hyn, fydd neb yn medru dwyn ‘Y Wyrth yn Ffrainc’ oddi arnom – y buddugoliaethau annisgwyl, hyfryd, gorfoleddus, ecstatig hynny a’n cadwai yn Ewrop pan oedd eraill am fynd â ni oddi yno.

Simon Brooks
Mwy