Yn 38 oed, Leo Varadkar ydi’r Taoiseach (Prif Weinidog) ieuengaf yn hanes Gweriniaeth Iwerddon: mae o’n iau hyd yn oed nag Arlywydd newydd Ffrainc, Emanuel Macron, sy’n 39. Daeth yn Taoiseach wedi iddo gael ei ethol yn arweinydd ei blaid Fine Gael yn sgil ymddeoliad Enda Kenny. Fel Theresa May, bydd raid iddo benderfynu pryd i alw etholiad cyffredinol er mwyn sicrhau mandad y bobl. Yn dilyn gambl drychinebus May, go brin y bydd ar frys i wneud hynny.
O, ac mae Varadkar hefyd yn hoyw ac yn fab i fewnfudwr o India. Bu hyn yn destun syndod ac edmygedd ledled byd: wele Iwerddon − sydd fel arfer yn cael ei gweld fel gwlad geidwadol, Babyddol − yn sydyn ar flaen y gad fodernaidd. Dyma ni bellach, ynghyd â Ffrainc a Chanada, yn aelodau o ryw fath o Club Med trendi ag arweinydd ifanc, egnïol, carsimataidd yn cynrychioli cenhedlaeth newydd…
Gorffennaf 2017 i Awst 2017 / Rhifyn 654-655

Pwy ydi Leo Varadkar?

Mewn dau gae
Rydw i'n un o'r nifer fawr o bobol sy'n mwynhau steddfota, ac yn edrych ymlaen at y profiad bob blwyddyn. Yr Urdd, y Gen ac ambell i steddfod fach (os oes 'na frechdan wy reit dda) – mi fydda i yno. Mi fedrwn i eistedd yn ddigon hapus yn y pafiliwn drwy'r dydd efo fflasg a bocs bwyd. Ond dwi mewn lleiafrif o bobol sy'n fodlon cyfadda hynny'n gyhoeddus. Rydw i hefyd yn licio cerdd dant, coeliwch neu beidio – sy’n gyfystyr â mynegi diddordeb mewn bwyta babis.
Ond eleni, mae rhyw ’sictod yn dod drosta’i bob tro y bydda i’n meddwl am Steddfod Ynys Môn, canys 2017 yw Blwyddyn Fawr Maes B. Pan gewch chi eich babi cynta mi gewch chi lawer iawn o gyngor am godi gwynt ac iro tethi ond dim oll am y ddywededig gyntafanedig ferch yn mynd i Faes B am y tro cynta, ac i grafangau fodca a hogia o dde Cymru…

Credu yn Corbyn
Y tro cyntaf i mi ddod wyneb yn wyneb efo’r ffenomen wleidyddol ryfeddol honno a elwir yn Jeremy Bernard Corbyn oedd yng nghynhadledd Plaid Lafur Cymru yn Llandudno'r llynedd. Bydd y rheini sy’n mynychu’r cynadleddau gwleidyddol yn gwybod bod gan bob un ohonynt ei naws unigryw. Mae’r cynadleddau Cymreig yn ddigon bychan fel bod llawer o’r wynebau yn y gynulleidfa yn hanner cyfarwydd, o leiaf, wedi ychydig o flynyddoedd. Ond y diwrnod hwnnw roedd naws wahanol ac wynebau newydd yn Venue Cymru. Nid cynhadledd Llafur Cymru arferol mo hon.
Yn un peth, roedd hi’n ymddangos bod yna lawer iawn mwy o bobl nag arfer yn bresennol. Gan amlaf byddai hynny’n destun llawenydd i’r trefnwyr a’r hen lawiau eraill: argol, byddai’r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig yn aberthu gyrr o loeau pasgedig i ddathlu dyfodiad hyd yn oed hanner dwsin o wynebau anghyfarwydd i chwyddo eu cynulleidfaoedd truenus o denau...

Y pry ym mhren Plaid Cymru
Y syniad bellach yw bod Plaid Cymru ar y chwith gwleidyddol ac yn anelu at gasglu pleidleisiau o blith y dosbarth gweithiol llafurol. Os mai dyna’r rheswm dros waharddiad y pwyllgor gwaith ar rannu cabinet â’r Ceidwadwyr ar Gyngor Sir Conwy, aeth y strategaeth yn fflemp yn yr etholiad cyffredinol. Gostwng ddaru canran y Blaid o’r bleidlais er i nifer ei haelodau seneddol gynyddu o dri i bedwar. Ond mae pry yn y pren Pleidiol. Ac ni all ennill sedd ychwanegol guddio hynny.
Un agwedd ar y fytholeg wleidyddol Gymreig yw bod y Torïaid yn blaid estron yng Nghymru a bod Plaid Cymru yn blaid sosialaidd asgell chwith. Ond mae natur gwleidyddiaeth yn amrywio o un rhan o Gymru i’r llall. Dyna sut y llwyddodd Keith Best i ennill Môn yn 1979 ac y daeth Tomos Dafydd yn ail eleni ar draul Ieuan Wyn Jones...

Môn – ynys ymborth
Bwyd sydd wrth wraidd yr arwyddair ‘Môn Mam Cymru’, a gofnodwyd gan Gerallt Gymro yn 1188. Hawliodd, yn ei deithlyfr Itinerarium Kambriae, fod Ynys Môn yn cynhyrchu mwy o wenith na holl ardaloedd Cymru. Pan fyddai cynhaeaf ardaloedd eraill yn methu, meddai, ‘y mae’r wlad hon ar ei phen ei hun, yn arfer cynnal Cymru i gyd â’i chnwd bras a thoreithiog o ŷd’. A thros chwe chanrif yn ddiweddarach nododd George Borrow, yn ei deithlyfr yntau, Wild Wales, mai ‘Ceirch a Methodistiaeth’ a nodweddai’r ynys.
Y newyddion da i’r Cymry fydd yn heidio i’r Brifwyl ym Modedern ddechrau Awst yw bod bwyd Môn yn dal ar frig y siartiau. O gynhyrchwyr caws Rhyd y Delyn, mêl Felin a llysiau Medwyn Williams i lwyddiannau rhyngwladol Wystrys Menai a Halen Môn, heb sôn am fwytai Michelin a’r Good Food Guide, mae yna wledd yn eich aros eleni...

Y Felin Arholi
Gallaf gofio fel ddoe haf 1981. Yr haf wedi i mi sefyll fy arholiadau Lefel O a’r canlyniadau’n teimlo’n bell bell i ffwrdd. Haf o wylio Wimbledon, binj-ddarllen nofelau Danielle Steele, a manteisio ar y gwyliau hwy nag arfer i fynd dramor ar fy mhen fy hun am y tro cyntaf, yn un ar bymtheg oed.
Mae hi’n haf arholiadau yn ein cartref ni eto eleni, a chanlyniadau TGAU i’w disgwyl ddiwedd Awst. Ond does ’na ddim teimlad o garreg filltir na gwobr o wyliau hir y tro hwn. Yn hytrach mae’n ddiwedd ar gyfnod o garlamu i gwblhau cyrsiau mewn pryd a straffaglu i swotio bob yn ail â’r gwaith cartref arferol. Fel miloedd o ddisgyblion a’u teuluoedd, cawsom ein dal mewn system sy’n annog cyflwyno plant yn gynnar ar gyfer rhai o’u harholiadau TGAU ac mae sgyrsiau cyson gyda rhieni eraill ac athrawon mewn ysgolion ledled Cymru yn codi’r cwestiwn pryderus, er lles pwy?...