Gofynnwyd i’r band pres bywiog The Barry Horns ymddangos ar y rhaglen bêl-droed Y Wal Goch, i’w darlledu wedi’r etholiad diweddar. Dyw’r band ddim yn swil o ddangos eu cefnogaeth i’r syniad o annibyniaeth i Gymru. Roeddent yn awyddus i ganu eu cân newydd ‘Cymru Rydd’, cân ddwyieithog yn y dull rap sy’n ei deud hi fel y mae, gan sôn am Dryweryn, Brad y Llyfrau Gleision, ‘Yma o Hyd’ a sawl cyfeiriad gwleidyddol arall, ac mae’r prif gytgan yn cynnwys y geiriau ‘What we want – some self-determination/ Cymru rydd – lead us to liberation…/ Cymru rydd – resist our annexation’. Neges ddigon clir felly.
Dywedwyd wrth y band na allen nhw ganu’r geiriau, ond bod croeso iddyn nhw chwarae’r gân yn offerynnol. Yr hyn a ddywedodd S4C mewn datganiad oedd mai rhaglen am bêl-droed oedd Y Wal Goch, a doedden nhw ddim yn gweld pwrpas dod â gwleidyddiaeth i’r potes! Sy’n codi sawl cwestiwn diddorol yn yr hinsawdd sydd ohoni. Nawr mae Boris Johnson am i bobl beidio â defnyddio’r gair ‘gwlad/country’ wrth gyfeirio at Gymru a’r Alban, gan mai un ‘wlad’ yw’r UK. Ond holl bwrpas Y Wal Goch yw dathlu’r ffaith fod tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru wedi cyrraedd yr Ewros – nid yr Alban, nid Lloegr, ond Cymru. Sylfaen yr holl raglen yw dathlu cenedligrwydd Cymru.
Pa mor bell, tybed, y mae S4C am fynd i gadw gwleidyddiaeth allan ohoni? Un o uchafbwyntiau’r profiad o ddilyn Cymru ers Ewros 2016 yw clywed y dorf yn canu ‘Hen Wlad fy Nhadau’, yr anthem sy’n cynnwys y llinellau ‘Ein gwrol ryfelwyr, gwladgarwyr tra mad,/ Dros ryddid collasant eu gwaed’. Mae hwnna’n swnio’n ddatganiad peryglus o wleidyddol i mi – ydi S4C am wahardd canu’r anthem tybed? Neu osod llun o Boris Johnson a Jac yr Undeb dros y rhan honno o’r anthem?