Roedd rhaid newid y trefniadau cyfarfod. Yn wreiddiol, ein bwriad oedd cwrdd ar nos Wener yng Ngwesty’r Parkgate yn Heol y Porth, Caerdydd, bum munud o’r stesion gan fod Ian yn gobeithio dal trên 19.42 yn ôl adref i Gaerfyrddin wedyn. Ond roedd yn gweithio’n hwyr, yn cyfarwyddo Pobol y Cwm, ac roedd y brifddinas yn brysur gyda heidiau o gefnogwyr pêl-droed Cymru yn llawn gobaith cyn eu siom o golli i Armenia.
Felly rydyn ni’n cwrdd nos Sul yng Ngwesty’r Park Inn (Radisson) ger canolfan y CIA, neuadd gyngerdd enfawr nid gwasanaeth cuddwybodaeth yr Unol Daleithiau. Mae’r awyrgylch yn ymddangos yn gosmopolitanaidd. Tu ôl i’r ddesg dderbyn mae clociau ar y wal yn dangos yr amser yn Tokyo, Efrog Newydd, Sydney… a Chaerdydd.
Rydym yma i drafod y gyfrol amlgyfrannog newydd a olygwyd gan Ian, Llwyfannu’r Genedl Anghyflawn.