Bethan Kilfoil
Mae’n sicr nad y fasnach gyffuriau a gangiau arfog yn saethu ei gilydd yn gelain yw’r ddelwedd gyfarwydd o brifddinas Iwerddon. Ond gan Ddulyn y mae’r record waethaf yn Ewrop am lofruddiaethau o’r fath. Mae Dulyn yn ddinas groesawgar. Ddim mor fawr a phrysur â Llundain. Ddim mor ffroenuchel â Pharis. Y Liffey, y GPO, St Stephen’s Green, Croke Park – dinas o gymeriad a chymeriadau, yn hanesyddol fyw ac yn llawn cyfeillgarwch.