‘Addysg Addysg, Cwestiynau Cwestiynau’ meddai’r geiriau ar y clawr, ac yn wir mae colofnwyr a chyfranwyr y rhifyn hwn yn mynd i’r afael â llu o gwestiynau heriol a difyr mewn sawl maes. Yn sgil helynt canlyniadau Saesneg TGAU, holi beth fydd dyfodol CBAC y mae’r cyn-brifathro uwchradd Dafydd Fôn Williams. Cwestiynau am deyrngarwch cenedlaethol sêr y meysydd chwarae yn Iwerddon sy’n cael sylw Bethan Kilfoil. Beth yw’r gwir am y rhyfela a’r tywallt gwaed yn Syria? Dyna gwestiwn anodd Hefin Jones. Mae Beca Brown yn gofyn sawl cwestiwn am y ‘diwylliant fform ffôr’ lle mae merched yn cael eu barnu yn ôl eu golwg. Cynnig yn fwy na chwestiwn sydd gan Gareth Miles, sydd am ddirwyo’r cyfryngis Cymraeg a phawb arall sy’n gorddefnyddio’r ansoddair ‘anhygoel’. Gwell bodloni yma, felly, ar ‘rhyfeddol o amrywiol’ fel disgrifiad o gynnwys Barn y mis hwn. Prynwch gopi i weld drosoch eich hun.
Vaughan Hughes
Mi ydw i wedi cael cryn dipyn i’w wneud â phlismyn ar hyd y blynyddoedd. Fy ngwaith fel newyddiadurwr, prysuraf i esbonio, fu’n gyfrifol am hynny nid unrhyw duedd anghyffredin ynof i dorri’r gyfraith. Ar wahân, hynny ydi, i oryrru. Ar un achlysur cefais fy nhemtio i roi fy nhroed i lawr yn drymach nag arfer yng nghyffiniau Trawsfynydd, ar yr unig damaid unionsyth o ffordd a oedd yn bod ar y pryd rhwng de a gogledd. Nid digon y tro hwnnw oedd taro siec yn y post. Rhaid oedd ymddangos gerbron y llys ym Mlaenau Ffestiniog. Cynghorwyd fi nad peth doeth fyddai i un a ddaliwyd yn gwneud 103 wynebu llid a chynddaredd ynadon Stiniog ar ei ben ei hun. Yn y gobaith y gallwn osgoi gwaharddiad hir bu’n rhaid i minnau logi’r Barnwr, bellach, Niclas Parry i eiriol ar fy rhan. Diolch i’w ddoniau llachar gosodwyd arnaf ddirwy drom yn gyfnewid am waharddiad o ddeg diwrnod yn unig. Bargen, mewn gwirionedd. A phrawf bod arian yn gallu, nid osgoi yn hollol, ond lliniaru cosb. Doedd hi’n ddim syndod o gwbl i mi fod potsiar mor ddeheuig ag ef wedi cael ei ddyrchafu’n gipar y gyfraith.