Menna Baines
Mae prosiect a fydd yn cael ei gyflwyno mewn amryw leoliadau dros y misoedd nesaf yn cyfuno celf, cerddoriaeth a barddoniaeth, ac yn deyrnged i fardd ac awdur arbennig a fu farw’n gynharach eleni.
Canol Medi, ac mae haul braf yr haf bach Mihangel wedi denu ymwelwyr i ganolfan ysgrifennu Ty Newydd, Llanystumdwy. Ond nid yr haul yn unig sydd wedi dod â nhw i’r plasty bychan gwyngalchog a fu’n gartref i Lloyd George. Mae rhai, minnau yn eu plith, wedi dod yno i weld lluniau a chlywed cerddoriaeth, gwaith newydd sy’n dathlu cyfraniad gwr a dreuliodd gryn dipyn o amser yn y ganolfan ysgrifennu, fel un o’i thiwtoriaid mwyaf poblogaidd.
Y gwr hwnnw oedd Nigel Jenkins, y bardd a’r awdur o benrhyn Gwyr a fu farw’n gynharach eleni. Teyrnged iddo yw PROsiect hAIcw, ffrwyth cywaith rhwng merch Nigel, y cerddor Angharad Jenkins, a’r artist Iwan Bala (saif yr ‘AI’ am Angharad ac Iwan).
Rhyw fath o ymarfer anffurfiol yw’r cyflwyniad yn Nhy Newydd, paratoad ar gyfer mynd â’r gwaith ar daith o gwmpas sawl canolfan yn ystod y misoedd nesaf. Mae Iwan yn dangos gwaith celf sydd wedi’i ysbrydoli gan lyfrau a cherddi Nigel gan gynnwys yr haicws y cyhoeddodd ddwy gyfrol ohonynt. Mae un gwaith o’r enw ‘Hoff Bethau’r Bardd’ sy’n rhestr orlawn o lefydd a phobl a phethau a oedd yn bwysig i Nigel – o graffu fe welwch chi enw un o draethau Gwyr, Rotherslade, lle hoffai gynnal barbeciws, enw siop win yn y Mwmbwls lle’r oedd yn byw, ac enwau cerddorion a edmygai, o Miles Davies i John Cale. Mae llun arall yn dangos cerdd gan Twm Morys i Nigel, ac yn wir mae Twm ei hun wedi dod i Dy Newydd heddiw i gyflwyno’r gerdd honno. Roedd Twm yn un o gyd-aelodau Nigel yn y Bechgyn Drwg, band a gyfunai gerddoriaeth gyda barddoniaeth ac a oedd hefyd yn cynnwys Iwan Llwyd a John Barnie. Mae Twm wedi dod â’i gitâr efo fo ond yn y diwedd, ar ôl baglu ar yr un cord dair gwaith, mae’n bodloni ar ddarllen y gerdd, gan addo dysgu’r cord tramgwyddus erbyn y perfformiadau go iawn. Mae dehongliad gweledol Iwan Bala o’r gerdd bellach wedi cael cartref parhaol yn Nhy Newydd, wedi i’r ganolfan ei brynu.
Mae Angharad, wedyn, yn rhannu atgofion am ei thad ac yn adrodd rhai o’i haicws a’i gerddi eraill i gyfeiliant ei cherddoriaeth ei hun y mae’n ei chwarae ar ffidil drydanol. Gyda loop station i greu effeithiau arbennig a samplo, mae’r gerddoriaeth yn fodern ei swn ac yn dra gwahanol i gerddoriaeth Calan, y band gwerin y mae Angharad yn aelod ohono, ond yn hudolus. Ymhlith y cerddi a gyflwyna mae un lle mae Nigel yn sôn fel y bu i genhedlaeth flaenorol o’r teulu gefnu ar yr iaith Gymraeg; ei dysgu fel oedolyn a wnaeth ef ei hun. Cawn hefyd glywed ei lais ef ei hun, mewn recordiad ohono’n darllen cerdd hynod ddoniol o’r enw ‘Teetotalitarian Lament’ am y profiad o fod yn feddw.
Ar ddiwedd y cyflwyniad, mae’r gynulleidfa fechan werthfawrogol yn gwasgaru a daw cyfle allan yn yr ardd i holi mwy am wreiddiau’r prosiect. Yn ôl Iwan Bala, mater o hap a damwain oedd hynny. Y man cychwyn, meddai, oedd derbyn copi o gerdd Twm i Nigel, ‘Rhydd’, a hynny’n weddol fuan wedi marwolaeth Nigel ym mis Ionawr. Mae’r gerdd, sy’n sôn am ryddid rhag y byd a’i bethau, yn un a ysgrifennodd Twm yn wreiddiol i Nigel pan oedd y Bechgyn Drwg ar daith dramor ond a addasodd yn dilyn ei farwolaeth.
Aeth Iwan ati’n syth i ysgrifennu’r gerdd ar bapur Khadi yn ei lawysgrifen ei hun gan ychwanegu delweddau a oedd yn cynnwys fedora, het a brynodd Nigel mewn siop yn Syracuse yn yr Unol Daleithiau yn ystod taith arall gan y Bechgyn Drwg ac artistiaid eraill. Roedd Iwan yntau’n rhan o’r daith honno...