Hydref 2016 / Rhifyn 645

Cwrs y byd

Y Tân yn Llŷn

Ymhell o fod yn ‘drychineb PR’, Penyberth oedd yr ergyd gyntaf i gael ei tharo yn erbyn coron Lloegr yn enw Cymru ers gwrthryfel Glyndŵr, bum can mlynedd ynghynt. Daeth 15,000 i bafiliwn Caernarfon i groesawu’r llosgwyr adre o garchar Wormwood Scrubs. Teg yw gofyn beth ddaeth o’r angerdd hwnnw? Pam na heidiodd y Cymry i gefnogi’r Blaid yn sgil llosgi’r Ysgol Fomio? Yr ateb, wrth gwrs, yw’r Ail Ryfel Byd. Chafwyd dim etholiad cyffredinol rhwng 1935 a 1945...

Vaughan Hughes
Mwy

Trychineb Aber-fan

Cofiaf weld glowyr heb aros i ymolchi ar derfyn shifft dan ddaear gyda’u rhawiau yn sgleinio yn eu dwylo a’r lampau ar eu helmedau yn dal ynghyn; a chofio’r tawelwch am yn ail â’r dwndwr wrth i’r cloddio gael ei atal bob hyn a hyn.Wedi’r awr gyntaf ddaeth neb yn fyw o’r cwymp.
Lladdwyd 144 i gyd: 116 yn blant. Dros y blynyddoedd bu trychinebau a hawliodd fwy o fywydau. Ond ein harswyd ni oedd hwn. Ein gofid ni. Gofid a rannwyd gyda’r byd am yr esgeulustod a’i hachosodd. Ein plant ni oedd y rhain.

Gwyn Llewelyn
Mwy

Caerdydd ddoe a heddiw Holi Aled Islwyn

Mae nofel ddiweddaraf Aled Islwyn Plant y Dyfroedd (Gomer, £8.99) wedi tyfu o awydd a fu ganddo ers tro i ysgrifennu rhywbeth am Gaerdydd, ei gartref ers dros ddeugain mlynedd – rhywbeth fyddai’n ymwneud â gorffennol y lle yn ogystal â’i bresennol.
‘O’n i’n gwybod ’mod i ddim isie sgwennu nofel hanesyddol gonfensiynol, ond ro’n i isie i hanes fod yn rhan ohoni. Ro’n i isie elfenne o hanes go iawn Caerdydd, ond ro’n i hefyd am drafod un peth sydd wedi fy niddori i ers amser, sef sut mae hanes yn ffurfio, a’r berthynas rhwng hanes a chwedl; sut mae rhai pethau’n goroesi fel hanes a phethau eraill yn cael eu cadw’n fyw mewn chwedlau.’

Menna Baines
Mwy
Ysgrifau Coffa

Gwynn ap Gwilym (1950–2016)

Bu farw Gwynn ap Gwilym ar drothwy’r Eisteddfod fuasai wedi nodi deng mlynedd ar hugain ers iddo ennill ei gadair yn Eisteddfod Abergwaun, ond cyn ac ar ôl y fuddugoliaeth honno gwnaethai gyfraniadau cofiadwy i fywyd Cymru mewn llawer maes.
Fel awdur, ysgolhaig, bardd a llenor dawnus, treuliodd y rhan fwyaf o’i yrfa fel clerigwr yng ngwasanaeth yr Eglwys yng Nghymru. Un o’i gyfraniadau llenyddol disgleiriaf yw ei addasiad o’r Salmau i ffurf ganadawy ar gyfer cynulleidfaoedd heddiw, a bu’n un o olygyddion y cylchgrawn hwn.
Bu farw Gwynn ap Gwilym ar 31 Gorffennaf 2016.

Meg Elis
Mwy

Rho llwyfan i Lleuwen – a Llydaw

Y gantores Lleuwen Steffan sydd â’r brif ran mewn cynhyrchiad theatr newydd tairieithog (Cymraeg, Llydaweg a Ffrangeg) a fydd yn teithio’n fuan. Cyd-gynhyrchiad rhwng y Theatr Genedlaethol a Teatr Piba o Lydaw yw Merch yr Eog /Merc’h an Eog ac mae’n ymwneud â’r ddwy wlad. Mae Lleuwen yn portreadu Cymraes sydd, fel hithau, wedi symud i Lydaw am gyfnod ond bod amgylchiadau wedi ei thynnu’n ôl i Gymru.
‘Mae’r ddrama yn ymwneud efo hiraeth... Mae’r ddwy wlad yn cynrychioli dwy stad o feddwl mewn ffordd – ddoe a heddiw, y gorffennol a’r presennol.’
Mae Merch yr Eog / Merc’h an Eog (sy’n seiliedig ar waith gwreiddiol gan Owen Martell ac Aziliz Bourgès) ar daith yng Nghymru, Lloegr a Llydaw rhwng 5 Hydref a 24 Tachwedd.

Miriam Elin Jones
Mwy

‘Doedden nhw’n ddyddiau da...’ Brexit, Corbyn a gwleidyddiaeth nostalgia

Yr wyf am fentro awgrymu mai’r allwedd wrth geisio deall y newidiadau radical diweddar yng ngwleidyddiaeth Lloegr a Chymru ydi nostalgia. Mae’r dde a’r chwith fel ei gilydd yn ymdrybaeddu yn y gorffennol.
Ond os yw’r dde â’r chwith Prydeinig wedi eu llethu a’u llyffetheirio gan nostalgia, nid felly y mae – rwy’n tybio – yn yr Alban.

Richard Wyn Jones
Mwy