Pan oeddwn yn aelod o Blaid Cymru, y farn ymhlith llawer o’i haelodau oedd bod UKIP yn dân siafins a fyddai’n chwythu’i blwc mewn dim o dro. Er ei bod yn ymddangos bod plaid UKIP yn brwydro am ei heinioes ar hyn o bryd, camsyniad yn fy marn i fyddai meddwl bod UKIP wedi bod yn fethiant. Yr her a wynebodd UKIP, fel pob plaid ddemocrataidd sydd am gyflawni chwyldro cyfansoddiadol, oedd sut i ennill dros 50 y cant o’r etholwyr i’w hachos. Wrth sicrhau refferendwm ar aelodaeth y Deyrnas Unedig o’r Undeb Ewropeaidd ac wedyn ei ennill fe lwyddodd UKIP yn rhyfeddol. Mae cymhariaeth rhwng llwyddiant UKIP yn cyrraedd ei phrif nod a methiant parhaus Plaid Cymru i ddenu cefnogaeth mwy na chwarter etholwyr Cymru yn dangos yn glir pa mor affwysol o wael yw ymdrechion y Blaid. Yn lle gwawdio UKIP dylai Plaid Cymru geisio dysgu gwersi oddi wrthi…
Hydref 2017 / Rhifyn 657

A fydd heddwch?
Yng nghysgod clamp o gofgolofn goncrid sy’n mawrygu ideoleg gomiwnyddol arbennig Gogledd Corea yn y brifddinas Pyongyang, gofynnais i’n tywysydd ifanc oedd hi wir yn credu yn anffaeledigrwydd Plaid y Gweithwyr a’i harweinydd Kim Jong-Un. ‘Oes gyda chi grefydd, Tim?’ holodd Miss Kim. ‘Ddim felly,’ atebais. ‘H’m,’ meddai hithau, ‘Yna mi gewch chi drafferth deall hyn.’ Ebrill 2013 oedd hi a Gogledd Corea newydd danio taflegryn gan lansio lloeren i’r gofod. Cafwyd ymateb chwyrn o du America. Caewyd y ffin gyda Tsieina a gosodwyd sancsiynau. Swnio’n gyfarwydd? Mae fel tiwn gron ond erbyn hyn, gyda ffrwydro bom hydrogen, mae gallu milwrol y wlad ansefydlog hon yn cynyddu’n ddirfawr. Ond beth am y bobl? Ydyn nhw’n dal i gredu eu bod dan warchae? A pha mor sicr ydi gafael Kim Jong-Un ar ei bobol ei hun?...

Cyngor? Pa gyngor?
Mae ein tŷ ni yn un o res o ddeg ar Heol Cyfyng, Ystalyfera. Digwyddodd tirlithriadau yng ngerddi ein cymdogion yng Nghwm Tawe eleni, lai na blwyddyn wedi i ni symud i’r pentref ôl-ddiwydiannol i fyw. Yn yr ail dirlithriad, ym mis Mawrth, diflannodd cyfran helaethaf yr ardd drws nesaf i’r cwm islaw. Yn y cyfnod hwnnw, doedd dim awgrym gan swyddogion y Cyngor fod yn rhaid i ni adael na bod ein cartref yn anniogel. Yn y chwe mis cyn i ni dderbyn yr ‘Emergency Prohibition Order’, roedd Mam yn gydweithredol iawn tuag at y Cyngor a’r swyddogion wrth iddynt ddod mewn i’n cartref ni i gynnal profion a monitro. Syndod llwyr oedd hi felly pan ddaeth hi’n ôl o’r gwaith ar 8 Awst i weld ein cymdogion i gyd yn brysio i lwytho’u ceir ac yn paratoi i adael. Wrth i mi agor y drws i weld yr hyn oedd yn digwydd, dywedodd Mam, ‘Tell the kids to pack a bag with some clothes: we have to get out.’…

Colled genedlaethol – gwaith Colin Jones
Rydw i a ’nheulu yn byw yn yr Eglwys Newydd, mewn tŷ a oedd yn gartref ar un adeg i’r artist Ceri Richards. Ar ôl deall hynny y trefnais sgwrs gyda chymdoges ac yn wir, roedd Jean Roberts yn llawn atgofion am y teulu Richards yn byw yn y tŷ yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Yr hyn na wyddwn ar y pryd oedd bod artist arall o Gymro wedi bod yn rhan o’i bywyd hithau. Yr artist hwnnw oedd ei gŵr cyntaf, a’i enw oedd Colin Jones: enw dieithr i mi cyn hynny – ac, fe dybiaf, i’r rhan fwyaf o Gymry. Ond wedi cael fy sbarduno gan y sgwrs i fynd ar drywydd ei hanes, ymddangosai i mi fod yma artist a oedd heb gael y sylw dyladwy. Pe bai wedi cael byw – bu farw’n 39 oed mewn damwain – does dim amheuaeth gen i na fyddai wedi dod yn enw llawer mwy cyfarwydd…

Ugain mlynedd o anllythrennedd cyfansoddiadol
Efallai mai fi sy’n surbwch, ond rhaid cyfaddef nad oeddwn i’n hidio rhyw lawer am y sbloet a gafwyd i gyd-fynd ag ugain mlwyddiant datganoli. Oedd roedd o’n braf cael y cyfle i fwynhau unwaith yn rhagor y wên fach, bron-yn-swil ar wyneb John Meredith wrth iddo siarad â Dewi Llwyd o’r cyfrif yng Nghaerfyrddin. Pwy allai fyth flino ar y foment fwyaf eiconaidd yn holl hanes darlledu gwleidyddol Cymreig a Chymraeg? Ar ben hynny, roedd sylwadau cymesur ond heriol Ron Davies ynglŷn â’r ddau ddegawd diwethaf yn werth eu clywed. Felly hefyd araith ysgubol y darlledwr Huw Edwards gerbron cynulleidfa yn y Pierhead. Serch hynny, o’m rhan fy hun, roedd llawer gormod o’r sylwebaeth a glywyd yn arddangos ac felly’n atgyfnerthu’r anllythrennedd cyfansoddiadol hwnnw sy’n llethu’r drafodaeth wleidyddol yng Nghymru ers i’r Cynulliad Cenedlaethol agor ei ddrysau ddwy flynedd ar ôl refferendwm 1997.