Gwleidyddiaeth y Deyrnas Gyfunol a’r Rhyfel Diwylliannol
Wrth geisio darogan beth fydd wedi digwydd yng ngwleidyddiaeth Prydain erbyn i’r rhifyn hwn o Barn weld golau dydd, mae’r cwestiynau yn ddiddiwedd a’r posibiliadau bron â bod yn ddihysbydd. Mae hynny, wrth gwrs, yn golygu ei bod yn anos o lawer i’r colofnydd gwleidyddol hwn osgoi gwneud ffŵl ohono’i hunan. Eto i gyd, mantais ysgrifennu colofn ar wleidyddiaeth gyfoes sy’n dilyn rhythm gwahanol i’r arfer yw bod modd camu yn ôl oddi wrth y berw a’r gwallgofrwydd beunyddiol a cheisio cymryd golwg fwy oeraidd ar y cyfan. Ac yn wir, go brin y bu erioed fwy o angen am wneud hynny wrth i wleidyddiaeth y wladwriaeth redeg fel rhyw gar gwyllt o’n blaenau.
Yn gynyddol rwyf o’r farn mai’r unig ffordd i wneud synnwyr o’r cyfan yw cydnabod ein bod bellach yn byw drwy’r hyn y mae’r Almaenwyr yn ei alw’n kulturkampf, neu ryfel diwylliannol.