Rhyw dair wythnos yn ôl, deffroais i glywed arogl mwg yn yr awyr. Yng Nghymru – neu, yn wir, yma yn Sacramento mor ddiweddar â dwy flynedd yn ôl – buaswn wedi mynd allan a tsiecio’r tai i fyny ac i lawr y stryd am arwyddion o danau. Erbyn hyn, fodd bynnag, does dim angen gwneud hynny. Os ydw i am ddarganfod ffynhonnell yr arogl, y cwbl y mae’n rhaid imi ei wneud yw edrych tua’r gorwel. Yno, mae’r haul bron yn anweladwy drwy’r mwg, ac mae’r ceir ar y stryd yn llwyd gan y llwch sydd wedi casglu arnynt dros nos. Croeso i hydref arall yn y Delta.
Mae pethau’n waeth yn Ardal y Bae, lle mae San Francisco, San Jose a Vallejo wedi’u hamgylchynu gan fwg o dân enfawr tua’r gogledd, sef yr LNU Lightning Complex – wedi’i enwi ar ôl y mellt fu’n gyfrifol am gychwyn y tanau fis Awst.