Roedd Alan Esslemont, pennaeth y sianel deledu Wyddeleg TnaG, ymlith sylfaenwyr y sianel yn 1996. Albanwr ydi o ac mae ganddo brofiad a diddordeb ym mhob cwr bron o’r byd Celtaidd. Ar ôl astudio Ffrangeg yn y coleg aeth i Lydaw i weithio fel athro Saesneg. Wedi cyfnod yn gweithio mewn ffatri wlân ar ynys Skye er mwyn dysgu Gaeleg, bu’n darlithio yn y brifysgol yn Galway cyn symud i fyd teledu i weithio gyda’r cwmnïau annibynnol cynnar yn Connemara oedd yn cynhyrchu cartwnau. Yna, ar ôl treulio rhai blynyddoedd gyda TnaG/TG4, aeth yn ôl i’r Alban i sefydlu BBC Alba gan ddychwelyd i Iwerddon yn 2016 fel pennaeth TG4.
Yn ogystal â’r Wyddeleg a Gaeleg, mae gan Alan grap ar y Gymraeg, wedi iddo wneud cwrs Wlpan flynyddoedd yn ôl. Yn bersonol, meddai, mae o wastad wedi edrych tuag at Gymru a’r Gymraeg am ysbrydoliaeth. ‘Roedd ’na gymaint mwy o egni yng Nghymru ynglŷn â’r iaith,’ meddai. Ac wrth gwrs yn broffesiynol, S4C oedd y symbyliad a’r patrwm ar gyfer sefydlu TnaG.
‘Mi ddois i’n ffrindiau efo nifer o’r bobl ym myd teledu Cymru. Roedd Euryn Ogwen, er enghraifft, yn bwysig iawn i ni – fel rhywun efo gweledigaeth graff. Fe gafodd llwyddiant y ffilm Hedd Wyn effaith mawr arna i hefyd. Mi roddodd statws i’r Gymraeg: mae teledu a sinema yn rhoi statws i iaith.’