Mewn senedd-dai o Frwsel i Fwdapest, mae anniddigrwydd ffermwyr yn cael ei leisio gan y chwith a’r dde gan fygwth newid cwrs gwleidyddol sawl gwlad. Wrth i newid hinsawdd, chwyddiant ac ansicrwydd economaidd bwyso ar gymunedau amaethyddol ar y cyfandir, mae ffermwyr yn teimlo bod gwleidyddion, a Brwsel yn benodol, yn eu hesgeuluso.
Mae gwleidyddion bellach yn gweld amaethwyr ac amaethyddiaeth fel cyfle i ennill y bleidlais wledig. Ond mae ffermwyr yn teimlo bod Brwsel yn bwrw ’mlaen ag agenda werdd heb feddwl am y sgil-effeithiau ar ddyfodol y byd amaeth. Canlyniad hynny ydi gwrthdaro chwerw a chas rhwng ymgyrchwyr amgylcheddol a’r gymuned amaethyddol.
Daeth y gwrthdaro hwn i’w benllanw’n ddiweddar pan gafwyd ymgyrch ffyrnig gan y gymuned amaethyddol i ddymchwel Deddf Adfer Natur Senedd Ewrop – deddfwriaeth fyddai’n gwarchod ardaloedd sy’n cynnwys coedwigoedd, afonydd, corstiroedd a moroedd rhag gweithgaredd amaethyddol.