Will Patterson
Ym mis Medi’r llynedd aeth BBC Alba ar yr awyr. Hon yw’r sianel deledu a sefydlwyd ar y cyd gan y BBC a Seirbheis nam Meadhanan Gàidhlig (y Gaelic Media Service), a dalfyrrir yn MG Alba. Gaeleg yr Alban, wrth gwrs, yw iaith y sianel. Yn ei hwythnos gyntaf credir ei bod wedi denu 600,000 o wylwyr – mwy nag un rhan o ddeg o’r boblogaeth, a dengwaith yn fwy na chyfanswm y Gàidhealtachd – sef yr holl siaradwyr Gaeleg sy’n byw yn yr Alban.