Dafydd Roberts, John Rowlands, Gwion Llyr Dafydd
Ers dwy flynedd a hanner mae Cynghrair Cyhoeddwyr a Chyfansoddwyr Cerddoriaeth Cymru (Y Gynghrair) wedi bod yn brwydro i geisio cael tegwch i gyfansoddwyr a cherddorion Cymru. Yn dilyn mân gonsesiynau gan ‘PRS for Music’, y corff sy’n trwyddedu’r defnydd cyhoeddus o gerddoriaeth a chaneuon, mae’r ymgyrch erbyn hyn yn canolbwyntio ar sefydlu corffannibynnol i Gymru.Ond pam? Beth sydd yn bod ar y gwasanaeth mae’r PRS yn ei roi i gyfansoddwyr o Gymru? Gwraidd yr holl broblemau yw methiant y PRS i ddeall bod gwahaniaeth mawr yn bod rhwng diwylliannau cynhenid Prydain. Mae angen, felly, systemau, prosesau ac adnoddau dynol arbenigol i ddelio gyda thrwyddedu gweithiau o Gymru. Mae Cerdd Dant yn un enghraifft berffaith, lle mae tair elfen i’r cyfanwaith, sef y gainc, y farddoniaeth, a’r gosodiad. Nid yw PRS yn gallu deall hyn, gan mai dwy elfen sydd i bob cân Eingl-Americanaidd, sef y geiriau a’r alaw. Un enghraifft yn unig yw hon. Ychwanegwch gymhlethdodau trwyddedu cystadlaethau megis ‘Y Gân Actol’ yn yr eisteddfod at hyn, a hwyrach bod modd sylweddoli dryswch y PRS.
Fel unrhyw gorff sydd heb ei ddatganoli, mae’n cael trafferth i ddeall unrhyw beth sydd ddim yn gorwedd yn daclus yng nghwys y ‘mainstream’.
Ond nid y PRS yn unig sydd ar fai. Mae MCPS (y corff sy’n trwyddedu’r hawl i gopïo cerddoriaeth, boed ar bapur neu ddisg) hefyd yn esgeulus. Ar hyn o bryd mae ymhell dros £1m o ôl-groniad yn ddyledus mewn trwyddedau i gyfansoddwyr a labeli o Gymru. Yr MCPS sydd wedi bod yn llusgo’i draed yn prosesu trwyddedau darlledu o Gymru, gyda rhai yn dyddio yn ôl i 2005!
Ychwanegwch y PPL at hyn (sef y corff sy’n trwyddedu’r hawl i chwarae recordiadau yn gyhoeddus). Nid yw hyd yn oed yn cydnabod tiriogaeth Cymru, ond yn hytrach yn cyplysu de Cymru gyda de orllewin Lloegr, a gogledd Cymru gyda gogledd orllewin Lloegr. Gwelir yn glir pam fod Cymru angen corff annibynnol fydd yn trwyddedu’r holl hawliau hyn.
Yn dilyn cyhoeddi adroddiad Prifysgol Bangor, Y Diwydiant Cerdd yng Nghymru, a gomisiynwyd yn rhannol gan Y Gynghrair, mae’r Cynulliad wedi rhyddhau bron i £30,000 ar gyfer astudiaeth fanwl a chynllun busnes. Y nod yw canfod a yw corff trwyddedu annibynnol i Gymru yn ddichonadwy.
Yn dilyn proses tendr mae cwmni Cambrensis bellach wedi cychwyn ar yr astudiaeth, dan arweiniad Arwel Ellis Owen, gyda Deian ap Rhisiart yng ngofal yr ymchwil. A fydd hi’n bosib i gorff annibynnol yng Nghymru efelychu llwyddiant IMRO yn Yr Iwerddon, lle cynyddwyd yr incwm i gyfansoddwyr o £1m (pan oedd PRS yn rheoli) i £40m erbyn heddiw? Neu efelychu llwyddiant Croatia yn sefydlu corff sydd bellach yn cyflogi dros 60 o staff ac sydd wedi codi proffil cerddoriaeth Croatia ar blatfform rhyngwladol?
Bythefnos yn ôl cymrais ran mewn seminar yn Newry yng Ngwyl y Cyfryngau Celtaidd. Trafodwyd y problemau hyn gyda chyfansoddwyr y gwledydd Celtaidd eraill, sydd hefyd yn dioddef yn yr un modd o dan systemau cyrff trwyddedu Llundain a Paris. Mae cwmnïau cyhoeddi o’r Alban, Gogledd Iwerddon a Llydaw eisoes wedi addo symud eu caneuon o gatalog PRS, ac ymuno â chorff annibynnol yng Nghymru petai’n bodoli. Sylweddolant fod rhaid i gorff trwyddedu fod yn ymwybodol o anghenion arbenigol marchnadoedd y diwylliannau lleiafrifol. Rhywbeth sydd, mae arnaf ofn, y tu hwnt i’r PRS, MCPS a’r PPL.
Llyfr y Flwyddyn
John Rowlands
Rwy’n gredwr cryf yng nghystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn, ond ar yr un pryd yn llwyr sylweddoli pa mor amhosib ac annheg ac amherffaith ydi hi. Amhosib i’r beirniaid, yn un peth – sut mae disgwyl i dri pherson gwahanol gytuno’n ddi-ffael ar enillydd, hyd yn oed wedi hir drafod a gwyntyllu? Annheg â’r collwyr, oherwydd dan feirniaid gwahanol mae’n bosib mai un ohonyn nhw fyddai’n ennill. Amherffaith, oherwydd ei bod yn gwbl orffwyll o amhosib dewis rhwng cyfrol o farddoniaeth a nofel neu rhwng casgliad o straeon byrion a chyfrol o feirniadaeth.
Fe ddywedwyd droeon, a rhaid ei ddweud eto, nad dau Lyfr y Flwyddyn sydd yna (un yn Gymraeg a’r llall yn Saesneg), ond nifer. Gobeithio y bydd modd i’r Academi symud yn araf i’r cyfeiriad hwnnw cyn bo hir, a gosod cystadleuaeth ar gyfer rhyddiaith greadigol, un arall ar gyfer barddoniaeth, ac un arall ar gyfer rhyddiaith feirniadol/cofiannol/hunangofiannol neu arall.
Arian yw’r bwgan, mae’n siwr.
Y gwir yw fod y gystadleuaeth hon yn fodd i hybu diddordeb mewn llyfrau. Mae’r seremonïau ar gyfer cyhoeddi’r Rhestrau Hir yn denu cyhoeddusrwydd a diddordeb. Fe ddylai’r cyhoeddi hwn gael ei ddilyn gan nifer o seiadau ledled Cymru i drafod agweddau ar y ddwy restr o ddeg llyfr. Mae angen cyhoeddusrwydd o’r fath – ac ambell raglen ar radio a theledu hefyd, wrth gwrs, heb sôn am drafodaethau yn y wasg. Erbyn y daw’n amser cyhoeddi’r Rhestr Fer yng Ngwyl y Gelli, fe ddylai fod tipyn o gyffro wedi’i ennyn.
Ond seremoni wachul a gafwyd i gyhoeddi’r Rhestr Hir ym Mangor eleni. Roedd acwsteg yr ystafell yn anobeithiol, a phrin y gellid clywed y siaradwyr o’r llwyfan yn glir. Prin y gellid eu gweld chwaith, a’r haul yn tywynnu o’r ffenest y tu cefn iddynt. Yn waeth byth, pan oedd y seremoni yn tynnu at ei therfyn, dyma sioe deledu yn cychwyn yn y cefn i gystadlu gyda’r darllenwyr ar y llwyfan, nes bod cwestiynau arwynebol ac ystrydebol y gohebwyr teledu’n boddi’r lleisiau ar y llwyfan. Anfaddeuol! A beth am y Rhestr Hir eleni? Wel, y sioc fwyaf a gefais i oedd gweld nad oedd Y Llyfrgell gan Fflur Dafydd ar y rhestr o gwbl. Dyma’r nofel a enillodd Wobr Goffa Daniel Owen yn y Bala y llynedd, ac roedd beirniad fel Dafydd Morgan Lewis yn ei hystyried yn un o oreuon Gwobr Goffa Daniel Owen erioed! Gwn mai mater o chwaeth yw dewis fel hyn, ond mae’r ffaith i Fflur ennill sawl gwobr arall am y llyfr hwn yn awgrymu rhyw fath o ragfarn y tro yma. Ni fuaswn yn gwarafun i Mân Esgyrn Siân Owen fod ar y Rhestr Hir, oherwydd roedd hi’n ymgiprys am Wobr Goffa Daniel Owen ac yn haeddu’r wobr honno. Ond lle’r oedd nofel ysgytwol Lloyd Jones, Y Dwr? Mae honno’n nofel i beri i rywun gael tröedigaeth werdd. Gallwn enwi llyfrau eraill megis Dala’r Llanw Jon Gower a Milwr Bychan Nesta Aled Islwyn. Onid profi y mae hyn mai mater o chwaeth yw’r cyfan? Nage ddim – mater o ddiffyg chwaeth yn aml iawn. Gwell tewi cyn sathru ar fwy o draed.
Ble mae tîm Criced Cymru?
Gwion Llyr Dafydd
Nid yw Cymru yn cael ei chynrychioli yn y Cenhedloedd Unedig. Serch hynny, y mae ganddi statws rhyngwladol mewn sawl camp – pêl-droed, rygbi, hoci ac ati. Yn wahanol i’r Alban ac Iwerddon, nid oes gan Gymru statws cenedlaethol yn y gemau Olympaidd (er bod ganddi dîm yng Ngemau’r Gymanwlad!) nac ychwaith ar y maes criced.
Un o ofynion y Cyngor Criced Rhyngwladol yw fod gan bob gwlad gydnabyddedig gynghrair genedlaethol, gyda system byramid yn ei bwydo. I’r diben hwnnw gellid mabwysiadu’r drefn a gyflwynwyd gan awdurdodau pêldroed Cymru. Wedi dadlau ffyrnig, sefydlwyd Cynghrair Genedlaethol Cymru yn 1992. Bellach mae hi wedi ennill ei phlwy ac mae gan Gymru gynrychiolaeth o dri chlwb yn flynyddol yng nghystadlaethau Ewrop. Mae hyn oll yn codi proffil y gêm a’r genedl.
A chanolbwyntio ar griced – er bod gan Gymru nifer o gynghreiriau annibynnol a Chwpan Genedlaethol, nid oes rhwydwaith Gymreig ffurfiol. Yn ffodus, neu’n anffodus, nid diffyg adnoddau, clybiau na chwaraewyr yw’r rhwystr ond diffyg amcan a nod unedig. Mae cricedwyr o Gymru wedi profi llwyddiant ar y lefel ryngwladol drwy chwarae dros Loegr – Simon Jones a’i dad Jeff, Robert Croft, Matthew Maynard, Huw Morris, Tony Lewis (a fu’n gapten ar Loegr yn 1973) a Greg Thomas, i enwi llondllaw. Maen nhw i gyd wedi cynrychioli Morgannwg. Felly mae’r potensial a’r gallu yno a phrofwyd hyn ymhellach ryw bum mlynedd yn ôl, wrth i dîm oedd yn eu galw’u hunain yn ‘Gymru’ guro Lloegr mewn gêm undydd gyfeillgar, answyddogol.
Gwelir y diffyg arweiniad wrth astudio prif amcanion Bwrdd Criced Cymru (BCC) sef: ‘...datblygu cricedwyr talentog i chwarae i Forgannwg a Lloegr...’. Gellir casglu nad oes gan BCC mo’r weledigaeth na’r diddordeb i greu tîm cenedlaethol. Anwybyddir unrhyw ddyheadau Cymreig.
Tystiolaeth bellach o hyn yw fod 5 o’r 14 o aelodau bwrdd swyddogion BCC â chyswllt uniongyrchol gyda Morgannwg. Mae Morgannwg mewn safle freintiedig fel yr unig dîm sirol dosbarth cyntaf yng Nghymru. Maen nhw’n cydnabod i raddau eu bod yn cario baner a gobeithion Cymru gyfan ac yn ymateb i’r gefnogaeth genedlaethol trwy deithio a chwarae gemau ym Mae Colwyn, Pontypridd, Y Fenni ac Abertawe yn ogystal â’u pencadlys yng Nghaerdydd.
Pluen yn het Morgannwg ym Mehefin 2009 oedd cael cynnal y gêm brawf gyntaf yng nghyfres Y Lludw rhwng Lloegr ac Awstralia ar faes Stadiwm Swalec yng Nghaerdydd. Torrwyd ar yr hen arferiad sefydliadol Seisnig/Brydeinig o gynnal profion ar feysydd enwog Lloegr yn unig. Profodd yr achlysur yn llwyddiant ysgubol. Yn sgil hynny mae statws Morgannwg fel sir wedi ei chryfhau ar draul unrhyw sôn am geisio codi tîm cenedlaethol.
Er nad yw’r Alban a’r Iwerddon, ein cefndryd Celtaidd, eto yn ddigon profiadol i herio’r mawrion rhyngwladol yn gyson, mae eu datblygiad dros y pymtheng mlynedd diwethaf wedi bod yn galonogol iawn. Mae’r statws rhyngwladol a ganiatawyd iddynt wedi creu hyder a balchder cenedlaethol. Ac maen nhw’n cael sylw cynyddol yn y wasg gan eu bod yn gymwys i gystadlu mewn nifer o gystadlaethau rhyngwladol i dimau llai profiadol fel Canada, Namibia ac Affganistan. Mae’r Alban ac Iwerddon wedi llwyddo’n rhyngwladol. Pam na all Cymru hefyd?