Mae’r rhifyn diweddaraf yn llawn dop o erthyglau difyr: llyfrwerthwraig yn cyhuddo’r Cyngor Llyfrau o ddiystyru siopau llyfrau yn eu hadroddiad ar e-lyfrau, a chyn-ddarlledwr teledu yn ceisio – ac yn methu – gwneud synnwyr o’r bennod ddiweddaraf yn hanes S4C/Tinopolis/Heno. Yr AS a’r bargyfreithiwr Elfyn Llwyd yn dweud pam mae’n rhaid cael cyfundrefn gyfreithiol i Gymru, a Robat Trefor yn trafod pam y mae pobl Gwlad y Basg i’w gweld yn cael gwell hwyl ar gynllunio ieithyddol na ni yng Nghymru. Mae ein colofnydd ym Mrwsel, Dafydd ab Iago, yn cwyno bod cynrychiolwyr Cymru yn Ewrop yn ‘bedwarawd di-liw’ – ond yn dweud bod cysur yn hynny hefyd. Bu Sioned Webb yn holi’r cerddor a’r awdur Rhiannon Mathias sydd, yn ei ffordd ei hun, yn cynnal traddodiad teuluol o ymroi i gerddoriaeth. A sôn am deulu, ai Saunders yw tad roc a rôl Cymru? Dyna gwestiwn pryfoclyd Hefin Wyn. Am ateb, a gwledd o ddarllen, mynnwch eich copi.
Sioned Webb
Portread o Rhiannon Mathias
Mae Rhiannon Mathias yn cynnal y traddodiad teuluol o ymroi i fyd cerdd, yn ymarferol ac yn academaidd. A hithau ar fin cyhoeddi llyfr newydd am dair cyfansoddwraig, bu’n sôn wrth Barn sut beth oedd tyfu i fyny ar aelwyd gerddorol.Yn hwyr y pnawn ar aml nos Wener, finnau’n dal wrthi’n dysgu piano yng Nghanolfan Gerdd William Mathias, yn y Galeri, Caernarfon, ac yn disgwyl myfyriwr olaf y dydd, byddaf yn clywed sain denau, felys dwy ffliwt yn prin dreiddio’n hudolus drwy’r waliau. Byddaf yng gwybod wedyn fod Rhiannon Mathias wedi cyrraedd i ddysgu ei myfyrwyr hithau.