Mae rhifyn Mai yn llawn i’r ymylon o’r ysgrifennu craff arferol ar amrywiaeth o bynciau amserol. Mae Sioned Williams, a dreuliodd gyfnod y llynedd yn byw yn Cambridge, Massachusetts, yn esbonio pam y mae ffawd y brodyr sy’n cael eu hamau o osod bomiau Marathon Boston yn destun galar yr un mor ddwys yn y gymdogaeth â’r bywydau diniwed a ddinistriwyd gan y bomiau. Trafod y gwersi sydd i’w dysgu o’r epidemig o’r frech goch yn ardal Abertawe y mae’r Meddyg Plant Ymgynghorol, Dewi Evans, tra mae Bethan Wyn Jones, yn sgil y llifogydd diweddar, yn galw am ddeddfwriaeth i atal adeiladu ar y gorlifdir. Mae Bethan Kilfoil, Will Patterson, Deian Hopkin a Roy Thomas yn trafod agweddau ar deyrnasiad a gwaddol Margaret Thatcher gan gynnwys ambell agwedd annisgwyl. Theatr wleidyddol yw pwnc Gareth Miles, a phwer celfyddyd sydd dan sylw gan Marian Delyth hefyd, awdur colofn Fy Hoff Lun y tro hwn. Mynnwch gopi er mwyn darllen hyn oll, a llawer mwy.
Chris Cope
Mae Chris Cope wedi symud ei stondin. Ef yw colofnydd teledu newydd Barn. Wrth ddechrau ar y gwaith, mae ganddo gyffes i’w rhannu – a rhai disgwyliadau i’w nodi.
Meddyliwch yn ôl at ddiwedd mis Mawrth, gyfeillion. Yn benodol, meddyliwch yn ôl at y rhaglen Great British Menu. Ydych chi’n cofio? Gofiwch chi’r cogyddion oedd yn cystadlu i gynrychioli Cymru yn y wledd?
Os na welsoch mo’r rhaglen o’r blaen, mae yna dri chogydd sy’n dod o wahanol rannau o Brydain yn cystadlu yn erbyn ei gilydd er mwyn ennill yr ‘anrhydedd’ o goginio ar gyfer rhyw wledd fawr. Daw’r goreuon o sawl rhanbarth yn Lloegr, yn ogystal â rhai o’r Alban, Gogledd Iwerddon, a Chymru. Yn hanesyddol, ni chaiff Cymru fach ei chynrychioli’n dda – mae tuedd i’r cogyddion ‘Cymreig’ fod yn Saeson.