Mai 2014

Mae John Stevenson yn dadlau mai hil-laddiad Rwanda ugain mlynedd yn ôl berswadiodd America a Phrydain i ymyrryd yn filwrol mewn gwledydd fel Irac. Mae agweddau eraill ar Affrica yn mynd â bryd John Pierce Jones a Simon Thomas. Yn wir galw ar i Gymru annibynnol ymuno â’r Gymanwlad wna’r Aelod Cynulliad. Ymosodiad chwyrn David Cameron ar Carwyn Jones a Llywodraeth Cymru sy’n cael sylw Richard Wyn Jones. Gwerthfawrogiad o fywyd a gwaith y gwleidydd stormus o’r Alban, Margo MacDonald, a fu farw’n 70 oed sydd gan Will Patterson. Mae Beca Brown yn pendroni pam tybed y bu hi’n galaru dros Peaches Geldof a hithau, Beca, yn adnabod dim arni. Bygythiad Senedd Cymru i wahardd sigarennau electronig symbylodd fyfyrdodau Vaughan Hughes. Ac i brofi bod lluniau’n gallu bod yn fwy huawdl na geiriau, mae arddangosfa gan Marian Delyth yn ennyn edmygedd Ann Gruffydd Rhys. Rhai o erthyglau amrywiol rhifyn bywiog arall o Barn. Mynnwch eich copi.  

Barn digidol  

Mae Barn bellach ar gael yn ddigidol yn ogystal ag mewn print, a hynny o fewn ap Cylchgronau Cymru. Ei bris yw £3.99, ond mae gostyngiad sylweddol wrth danysgrifio am flwyddyn am £39.99.

Mae pris Barn fel cylchgrawn print newydd godi i £3.99 ond ar hyn o bryd nid oes newid ym mhris tanysgrifiadau. Mae modd i chi danysgrifio drwy gyfrwng ein gwefan neu drwy lenwi’r ffurflen sydd yng nghefn y cylchgrawn.

O’r Alban - Margo MacDonald: Gwerthfawrogiad

Will Patterson

Fedra i ddim peidio meddwl am fy nghyfarfyddiad cyntaf â Margo MacDonald a fu farw’r mis diwethaf yn 70 oed. Gorffennodd y cyfarfyddiad hwnnw’n gymodlon – sy’n hollol wahanol i’r ffordd y cychwynnodd. Trafodaeth gyhoeddus am y rhyfel yn Affganistan oedd yr achlysur. Roeddwn i’n fyfyriwr hollwybodus a wnaeth araith o’r llawr yn cefnogi’r rhyfel. Roedd hi’n Aelod o Senedd yr Alban dros yr SNP ac fe wrthwynebai hi’r rhyfel.

Aeth pawb, bron, am beint ar ôl y cyfarfod, Margo yn ein plith. Fe ges i fy sodro ganddi yn erbyn y bar. Doedd dim dianc rhag y storom eiriol a hyrddiodd hi ataf. Ond dyma sy’n rhyfedd. Rywsut, rywfodd, ar ôl iddi gael dweud ei dweud, roedd hi’n ddigon cyfeillgar tuag ataf. Adroddwyd gan sawl un arall eu bod hwythau wedi cael profiad o’r ymfflamychu a’r ymdawelu hwn.

Cychwynnodd gyrfa wleidyddol Margo MacDonald o ddifrif gyda’i buddugoliaeth fyrhoedlog yn isetholiad Glasgow Govan yn 1973. Gallai colli’r sedd fod wedi hyrddio Margo – mae hi’n un o’r criw dethol hwnnw a adnabyddir wrth eu henwau cyntaf yn unig – i ebargofiant. Ond roedd hi eisoes wedi dod yn un o sêr yr SNP – y flondan dymhestlog, alluog.

Will Patterson
Mwy

Cameron yng Nghymru: Carwyn Dan Warchae?

Richard Wyn Jones

Cafodd Prif Weinidog Prydain a’i gwn bach yn y wasg Lundeinig fodd i fyw wrth i ddiffygion Llywodraeth Lafur Cymru ddod dan y lach. Ond onid oes lle i gredu mai gwrthgynhyrchiol fydd yr holl ymosodiadau hynny yn y diwedd?

Ers rhai blynyddoedd ymunodd eich colofnydd â’r garfan frith honno o lobïwyr a newyddiadurwyr sy’n mynychu cynadleddau gwanwyn ein pleidiau gwleidyddol. Eleni cynhaliwyd nhw yng Nghaerdydd, Llandudno, Casnewydd a Llangollen. Am ychydig dros fis buom wrthi’n crwydro’r gwahanol ganolfannau hyn, yn fy achos i er mwyn annerch cynulleidfaoedd a ddenwyd i gyfarfodydd ymylol gan abwyd brechdanau tiwna a chreision halen a finegr.

O ddarllen y wasg Brydeinig byddai dyn yn taeru fod rhai, o leiaf, o brif gynadleddau gwleidyddol Prydeinig yr hydref yn ymdebygu i ryw Sodom a Gomorra cyfoes. Dwn i ddim am hynny, ond yn sicr nid felly oedd cynadleddau Cymreig y gwanwyn. O’u mynychu cewch y pleser o letya mewn cyfres o westai di-raen a’u stafelloedd molchi brwnt, a threulio eich awr ginio’n cnoi brechdanau digrystyn i gyfeiliant swyddogion Sustrans Cymru yn efengylu dros ragoriaethau beicio; swyddogion Ffederasiwn y Busnesau Bach yn canmol – sioc a syndod! – cyfraniad amheuthun busnesau bychain; neu bobl odiach fyth – fel myfi – yn dadlau achos Cynulliad Cenedlaethol 100 aelod. Onid yw’n rhyfedd o beth, dywedwch, nad yw cwmnïau Edwards neu Seren Arian yn trefnu bysus er mwyn cludo’r miloedd i fwynhau’r fath arlwy...?

Ond o droi o’r ymylon at brif waith y cynadleddau, mae’n ddi-os mai digwyddiad mwyaf arwyddocaol tymor 2014 – digwyddiad trydanol i’r rhai ohonom oedd yn bresennol i’w chlywed – oedd araith David Cameron gerbron rhai cannoedd o Geidwadwyr Cymreig yn Llangollen.

Nid wyf yn disgwyl i lawer o ddarllenwyr Barn fy nghredu, ond rhaid dweud fod Prif Weinidog y Deyrnas Gyfunol yn areithiwr tan gamp. Mae ganddo’r ddawn anghyffredin honno i allu cyfleu cynhesrwydd personol hyd yn oed yng nghyd-destun araith wleidyddol gwbl unllygeidiog o enwadol. Yn rhannol mae hynny’n adlewyrchu’r ffaith fod gan y Torïaid ddigon o arian i allu llwyfannu eu cynhadledd Gymreig mewn modd hynod broffesiynol. Roedd sgrin fawr yn dangos close up o wyneb Cameron trwy gydol ei araith gan ganiatáu i bawb yn y neuadd weld pob ystum. Ond mae mwy na thechnoleg i’w gyfrif am yr argraff sy’n cael ei chreu ganddo. Beth bynnag ein barn am ei wleidyddiaeth, rwy’n tybio fod cynhesrwydd y person ‘go iawn’ yn brigo i’r wyneb wrth iddo areithio. Mewn gwrthgyferbyniad – beth bynnag ei rinweddau eraill – mae dyn yn amau’n fawr a fydd unrhyw dechneg llwyfannu fyth yn ddigon i wneud areithiwr o Ed Miliband.

Ond nid safon y traddodi’n unig a’i gwnaeth yn araith mor gofiadwy, wrth gwrs. Yn hytrach, y cynnwys sy’n aros yn y cof.

 

Richard Wyn Jones
Mwy

Cwrs y Byd - Gymerwch chi sigarét?

Vaughan Hughes

Yn 1955 pan sgwennodd Saunders Lewis ei ddrama sigarennaidd doedd o, mwy na’r mwyafrif o bobol y cyfnod, ddim yn credu bod sigaréts yn angheuol. Yn wir yn y ddrama nid y sigarét eponymaidd sy’n beryglus ond y cas lle cedwir sigarennau. Lleolir y ddrama yn Fienna yn anterth y Rhyfel Oer. Yn nhraddodiad gorau Q yn ffilmiau James Bond yn ddiweddarach, mae’r cas wedi cael ei gynllunio i guddio’r ffaith mai pistol ydi o mewn gwirionedd! (Oes ’na faes ymchwil yma i rywun, dydwch? Dylanwad Saunders Lewis ar Ian Fleming?)

Dair blynedd cyn perfformio’r ddrama Gymraeg, a blwyddyn cyn i Stanley Matthews yn 1953 serennu ar lwyfan Wembley yn un o’r gemau gorau a fu erioed yn ffeinal Cwpan yr FA, roedd yr asgellwr yn canmol i’r cymylau (o fwg) y boddhad dihafal a gâi o smygu Craven A. Mae pêl-droedwyr heddiw yn bachu ar bob cyfle i ymelwa drwy hyrwyddo nwyddau. Ond fyddai’r un ohonyn nhw’n meiddio cymeradwyo sigaréts. Mae’r oes wedi newid.

Roedd adeg pan fyddai pobol yn tyrru i wrando ar wleidyddion yn eu hannerch mewn neuaddau mawr a bach. Un o’r pethau sy’n mynd â sylw rhywun gyntaf heddiw wrth wylio ffilm o Nye Bevan, dyweder, yn areithio yw’r cwmwl o fwg tybaco sy’n cuddio nenfwd pob neuadd.

Nigel Farage ydi’r unig wleidydd cyfoes sy’n ymfalchïo mewn cael ei weld efo ffag yn ei geg a pheint o gwrw yn ei law. Os bydd UKIP yn llwyddo, fel sy’n ymddangos yn bur debygol, i chwipio penolau’r pleidiau eraill yn etholiadau Ewrop ddiwedd y mis ’ma, beth ddaw o hynny? Fydd y fyddin luosog sydd wrthi’n dylunio delweddau cyhoeddus ein gwleidyddion yn efelychu Farage? Pa well ffordd i Lafur Cymru ymbellhau unwaith ac am byth oddi wrth Lafur Miliband na thrwy roi paced o Rizla a thun o Golden Virginia i Carwyn Jones?

Vaughan Hughes
Mwy

Trigain Llun - Gwaith ffotograffig Marian Delyth

Ann Gruffydd Rhys

Y mis hwn mae arddangosfa o waith y ffotograffydd Marian Delyth i’w gweld yn y Llyfrgell Genedlaethol, trigain o luniau wedi eu dewis yn ofalus i gynrychioli oes o dynnu lluniau.

Yn ôl i’w chynefin y daeth Marian Delyth wedi gadael coleg, i Flaen-plwyf yng Ngheredigion lle bu ei chyndadau yn amaethu. A’i mam-gu, yn arbennig, na welodd hi erioed mohoni. Chafodd Marian erioed gydio yn llaw Mam-gu, felly cydiodd mewn llun ohoni, mynd allan i’r union gae lle y tynnwyd y llun, a rhoi clic ar ei chamera.

Fel hyn roedd Marian yn pontio’r blynyddoedd rhyngddi hi a’i hynafiaid. Wrth edrych i mewn i ffenest y Canon EOS 5 medrai gyfuno dau gyfnod mewn un ddelwedd, gan fynegi teimlad y byddai eraill, efallai, wedi ei roi mewn geiriau ond a gafodd ei gyfleu ganddi hi mewn llun. Tynnwyd y ffotograff gwreiddiol gan ei thad tua 1948, yntau’n tynnu llun ei fam oedrannus, Margaret Jones Trefedlyn, wrth iddi edrych ar ôl ei da byw yn ei chaeau bach gwelltog. Mae mwy nag olyniaeth tras yn y llun – mae’r lle wedi goroesi hefyd. Ar un o gaeau Trefedlyn y saif cartref Marian heddiw.

Bu’r awydd i gofnodi yn gryf yn Marian erioed. Roedd ei thad yn gofnodwr heb ei ail ac fel ffotograffydd amatur medrus cadwai albwm gwyliau o’i luniau a’i nodiadau bob tro yr âi â’i deulu ar eu gwyliau tramor. Yn y coleg celf tynnodd Marian gyfres o luniau a ddangosai’r newid a ddaeth i’r dinasoedd yn sgil ailddatblygu trefol, ac mae ganddi nifer o ddelweddau grymus o ddigartrefedd a thlodi, adeiladau adfeiliedig a graffiti. Yn Birmingham roedd plant yn ei dilyn gan grefu ‘Take our picture!’, a diddorol yw edrych yn ôl ar y wynebau llawen yma heddiw gyda’u beiciau ‘chopper’ a’u dillad saithdegaidd.

Mae’r ffotograffau yma a dynnodd Marian o bobl yn tystio i amrywiaeth y testunau y trodd ei lens atynt dros y blynyddoedd. ‘Mae pobol yn fy nghysylltu i efo tirluniau,’ meddai. ‘Dw i’n hoffi tirluniau, ond dw i hefyd eisiau dangos fod yna gymuned, fod pobol yn byw yn y tirlun hwnnw.’

Bu Marian yn bresennol mewn nifer fawr o brif ddigwyddiadau ein cenedl, ac roedd hi yno yng Nghwm Cynon pan ddaeth y gwaith i ben yng Nglofa’r Twr yn 2008. Allan o’r pwll y deuai’r dynion, yn tynnu coes a chael hwyl a chwerthin. Ond pan alwodd rhywun ar un ohonynt, a John Woods yn codi ei ben, ar yr amrantiad hwnnw daliodd camera Marian yr olwg ar ei wyneb a ddywedai’r cwbwl – diwedd cyfnod, diwedd cwmnïaeth, diwedd cymdeithas.

 

60 Lluniau Marian Delyth, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, tan 14 Mehefin

 

Ann Gruffydd Rhys
Mwy

Materion y Mis - Rwanda

John Stevenson

Deg oed oedd Angelique Umugwanza yn 1994 pan ddechreuodd y brwydro yn Rwanda rhwng y Tutsi a’r Hutu. Eleni ar 6 Ebrill, yn y brifddinas Kigali, union ugain mlynedd ers cychwyn y lladd, cynhaliwyd seremoni i gofio’r hyn a ddaeth i gael ei adnabod fel hil-laddiad melltigedig. Wrth annerch y dorf a’r gwesteion o wledydd tramor hawliodd yr Ysgrifennydd Cyffredinol Ban ki-Moon fod y Cenhedloedd Unedig wedi dysgu gwersi pwysig ers y lladd. Gofidiodd hefyd nad oedd y byd wedi codi bys ar y pryd i atal y fath dywallt gwaed. ‘Ddaru ni ddysgu gwers galed yn Rwanda,’ meddai, ‘ond bu hil-laddiad arall flwyddyn yn ddiweddarach yn Srebrenica yn 1995.’

Mae Angelique Umugwanza’n benderfynol na chawn ni ddim anghofio ac mae hi wedi sgwennu llyfr er mwyn rhannu ei phrofiadau efo’r byd. Pobol o lwyth y Tutsi oedd mwyafrif y meirwon ond un o lwyth yr Hutu yw Angelique. Bu farw ei mam a’i brawd mawr wrth iddyn nhw ffoi i geisio lloches. Tydi hi ddim wedi gosod troed ar dir ei mamwlad ers 1994.

Y gred yw bod rhagor nag 800,000 o lwyth y Tutsi wedi marw yn ystod deg wythnos cyntaf y gyflafan. Wedyn lladdwyd yn agos i 200,000 o’r Hutu wedi i’w gelynion ymhlith y Tutsi ddial arnyn nhw. Dyna, felly, bron i filiwn yn marw dros gyfnod o ddim ond deufis a hanner. Yn ogystal â hynny bu’n rhaid i filoedd yn rhagor, o’r ddwy ochr, ffoi am eu bywydau i wledydd cyfagos.

Trwy hyn i gyd penderfynodd y ‘Gymuned Ryngwladol’, er mawr gywilydd iddi, wrthod yn llwyr ag ymyrryd. Wrth i’r lladd gyrraedd ei anterth cafodd Ysgrifennydd Tramor Prydain, Douglas Hurd, ei herio yn y Senedd gan Aelod Seneddol Pontypridd, Kim Howells. ‘Esboniwch pam nad ydi Prydain yn ymyrryd,’ mynnodd Dr Howells. ‘Am nad oes cyfiawnhad milwrol clir dros wneud hynny,’ oedd ateb Mr Hurd. H’m...

John Stevenson
Mwy

#galar

Beca Brown

Pan dorrodd y newyddion am farwolaeth disymwth Peaches Geldof yn 25 oed, mi wnes i deimlo’n annisgwyl o drist. Ond yn sydyn, ar sodla’r tristwch, mi wnes i deimlo’n andros o sili, gan nad ydw i’n nabod dim ar Peaches nac erioed wedi ei chyfarfod hi, a dydw i ddim wedi bod yn edmygydd o’i gwaith na dim byd felly chwaith. ‘Syndrom Lady Diana’ medda fi wrtha fi’n hun, llif o emosiwn gwirion dros rhywun cwbwl ddiarth. Pam na wnawn ni gadw’n dagrau i bobol ’dan ni’n eu nabod, yn lle eu sbydu nhw ar enwogion sydd yn ddim byd amgenach i ni na lluniau mewn cylchronau sglein. Dwi’n cael fy manipiwleiddio gan y wasg, medda fi wrtha fi’n hun, wrth i’r stori gael ei diweddaru’n ddidrugaredd ar bob gorsaf a safle newyddion hyd yn oed pan nad oedd diweddariad i’w gael.

Roedd y gwefannau cymdeithasu yn llawn o’r hanes wrth gwrs, a’r ymateb yn pegynnu rhwng y rhai oedd yn drist a syfrdan, a’r rhai oedd yn cwestiynu cymhelliad y rheiny oedd yn drist a syfrdan. Fel un sy’n hoff o botshian ar Facebook, mi fyddwn i fel arfer wedi nodi fy ymateb i unrhywbeth sydd wedi fy styrbio, ond wnes i ddim y tro yma. Teimlo cywilydd o’n i, am deimlo rhywbeth wrach nad o’n i ‘i fod’ i’w deimlo.

Yr wythnos wedyn bu farw’r awdures Sue Townsend. Unwaith eto, daeth ton o dristwch ar fy nhraws i, ond y tro yma mi wnes i nodi fy nheimladau. Roedd hi’n haws rhywsut, am fy mod i wedi fy magu ar nofelau Adrian Mole ac am ’mod i newydd ddarllen The Woman Who Went To Bed For a Year. Mi allwn i guddio tu ôl i edmygedd proffesiynol.

Ond tybed pam bod un tristwch yn ddilys a’r llall ddim?

Beca Brown
Mwy