Go brin fod Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns, wedi disgwyl y fath ymateb. Roedd wedi cyhoeddi bwriad y Llywodraeth Brydeinig i ailenwi’r ail bont fawr dros Hafren i ddathlu penderfyniad y Frenhines i draddodi Cymru’n rhodd symbolaidd i’w mab hynaf pan oedd yntau’n fachgen naw mlwydd oed. Does bosib na fu’r adwaith negyddol nid yn unig yn ffyrnicach ond lawer iawn yn ehangach nag yr oedd Swyddfa Cymru wedi ei ddisgwyl? Cyn-gynghorydd y Democrataidd Rhyddfrydol roddodd gychwyn ar y ddeiseb sydd wedi arwain rhai degau o filoedd i ddatgan yn gyhoeddus nad yw Tywysog Cymru wedi cyflawni dim drosom. Ac os yw’r negeseuon yr wyf i wedi eu derbyn yn gynrychioladol, mae rhai o gefnogwyr y Blaid Lafur Gymreig ymysg y rheini sydd fwyaf chwyrn eu gwrthwynebiad. Rwy’n tybio nad oes llawer o genedlaetholwyr Cymreig pybyr yn disgwyl gwell gan Alun Cairns, ond fe ymddengys fod llaweroedd o Gymry gwlatgar nad ydynt yn ystyried eu hunain yn genedlaetholwyr wedi eu synnu a’u siomi’n ddirfawr gan y penderfyniad i ailenwi’r bont. Yng ngeiriau un Llafurwr digon amlwg: ‘It just signals our subjugation.’
Wrth gwrs, mae ’na gwestiwn ehangach yn codi o lembo-eiddiwch taeogaidd ‘Pont Tywysog Cymru’. Sef a yw’r ailenwi − fel y tybia rhai − yn rhan o strategaeth fwriadus gan y wladwriaeth i geisio ail-Brydaineiddio Cymru? Y gwir amdani yw nad wyf yn gallu ateb y cwestiwn penodol hwnnw, a hynny oherwydd nad wyf yn gwybod pwy awgrymodd yr ailfathiad ac o dan ba amgylchiadau. Ac eto, rwy’n gyfan gwbl sicr fod yna strategaeth yn deillio o lefelau uchaf Whitehall sy’n anelu at geisio pwysleisio’r buddiannau a ddaw i ran Cymru a’r Alban yn sgil ‘yr Undeb’. Mae’n strategaeth a ddatblygwyd i raddau helaeth yn sgil canlyniad refferendwm annibyniaeth yr Alban. Bryd hynny, fel y dywedodd un gwas sifil hŷn wrthyf, fe sylweddolwyd bod angen gwneud mwy ‘to make sure that all the work that the UK Government does in the devolved territories is better appreciated’.