Dros y môr, miloedd o filltiroedd o Gymru mewn lle o’r enw Billings, Montana, bydd yr opera Gymraeg gyntaf erioed yn cael premiere yn y Byd Newydd. Ydi, mae’n wir, bydd Blodwen, a gyfansoddwyd gan Joseph Parry yn 1878, yn cael ei pherfformio’n llawn yng ngwlad y cowbois. A’r peth gorau? Fe fydd hi’n cael ei chanu yn y Gymraeg.
Fel yr opera Gymraeg gyntaf, mae i Blodwen arwyddocâd arbennig yn yr iaith. Wrth ei hysgrifennu, dangosodd Joseph Parry, ynghyd â Richard Davies (Mynyddog), awdur y libreto, fod y Gymraeg yn iaith hyblyg a modern a allai gael ei defnyddio yn un o ffurfiau adloniannol mwyaf poblogaidd ac elitaidd y 19g. Yn ei dydd roedd Blodwen yn boblogaidd iawn yng Nghymru. Aeth y cyfansoddwr o Ferthyr â hi ar draws y wlad i gyd, ac erbyn 1896 roedd wedi’i pherfformio bron 500 o weithiau. Wedi marwolaeth Parry, fodd bynnag, cafodd ei pherfformio’n llawer llai aml nes iddi fynd fwy neu lai’n angof.