Mae Llundain yn llonydd. Yn fwy llonydd a thawel nag arfer, yn sicr. Serch hynny, dydi’r ‘London Lockdown’, fwy na’r ‘National Lockdown’, ddim yn cael ei barchu’n gyfan gwbl.
Tra mae bysiau coch gweigion Transport For London yn rhedeg yn rhes i lawr strydoedd Oxford a Tottenham, mae adeiladwyr, gweithwyr swyddfa, gyrwyr faniau, couriers bwyd, yr heddlu a staff meddygol a newyddiadurwyr yn parhau i weithio. Gyda’r siopau ar gau, mae cerddwyr, rhedwyr, beicwyr a’r gweithwyr ‘allweddol’ yn cael rhwydd hynt.
Wrth ystyried yr un ar ddeg diwrnod o oedi a fu cyn cyhoeddi’r cyfyngiadau ar symud a theithio, rhaid cydnabod gwirionedd y sefyllfa. Hynny yw, ein bod yn byw mewn gwladwriaeth o 67 miliwn o bobl, mewn oes o beidio â malio am eraill ac o ddyrchafu hawl yr unigolyn i wneud fel y myn. Does ryfedd, felly, fod llywodraeth Boris Johnson wedi petruso cyn gofyn i bawb, bron, eu halltudio’u hunain yn eu cartrefi.