Blwyddyn wedi protestiadau Black Lives Matter, a gyda’r sylw cynyddol i hanes pobl ddu, mae’r rhan fwyaf yn gwybod fod pobl ddu wedi byw yng Nghymru ers canrifoedd. Ond llai adnabyddus efallai yw bod pobl ddu wedi bod yn bresenoldeb cyson yn y Gymru Gymraeg. Ceir tuedd o hyd mewn rhai cylchoedd i feddwl am amlethnigrwydd fel ffenomen Seisnig. Ond nid yn y dinasoedd mwy Saesneg eu hiaith yn unig y bu pobl ddu yn trigo, ac yno hefyd wrth gwrs roedd poblogaeth ddu fechan a fedrai Gymraeg.
Yn wir, gellid olrhain y presenoldeb du yng Nghymru yn ôl i wreiddiau Rhufeinig a Brythonig y wlad. Hynny yw, roedd pobl ddu ynghlwm wrth amodau ffurfiant y genedl Gymreig. Mae’n rhaid fod milwyr du yn y llengau Rhufeinig a wasanaethai yng Nghymru. Fe’u ceid mewn dinasoedd Rhufeinig ym Mhrydain fel Efrog, ac yn y gwersylloedd milwrol ar hyd Mur Hadrian. Pam y byddai’n wahanol yng ngorllewin yr ynys?