Ers blwyddyn a mwy, hanes Iwerddon sydd wedi mynd â’m bryd. Yn benodol, hanes Iwerddon yn ystod y ganrif ddiwethaf. A pha syndod? O edrych yn ôl, dros ganrif yn ddiweddarach, onid yw’n amlwg fod dylanwad y chwyldro a gychwynnwyd yn ystod Pasg 1916 wedi profi’n fwy pellgyrhaeddol a hirhoedlog na’r chwyldro hwnnw a gychwynnodd ym Mhetrograd (fel yr oedd ar y pryd) gwta ddeunaw mis yn ddiweddarach? Llwyddodd y Gwyddelod nid yn unig i agor bedd imperialaeth Brydeinig: ar risiau Prif Swyddfa Bost Dulyn y seiniwyd tranc imperialaeth orllewinol drwy’r trwch. Dal i ddisgwyl yr ydym am wawrddydd sosialaeth fyd-eang...
Mae’r dramatis personae mor rhyfeddol o ddiddorol hefyd. Dyna i chi ddycnwch a gweledigaeth Arthur Griffith – newyddiadurwr a’i wreiddiau teuluol yn Nrws-y-coed a newidiodd gwrs hanes cenedl a thrwy hynny danseilio’r Ymerodraeth fwyaf a welodd y byd erioed. A phrin fod ffigwr mwy rhamantus yn holl hanes y ganrif ddiwethaf na Michael Collins, y gŵr a lwyddodd i herio grym milwrol yr Ymerodraeth honno.