Daeth mesur i rym y mis diwethaf gyda’r nod o wahaniaethu rhwng ail gartrefi a thai gwyliau at bwrpas treth. Ers mis Ebrill, rhaid i berchnogion llety gwyliau brofi bod ganddynt gwsmeriaid ar 182 noson yn flynyddol i fod yn gymwys ar gyfer treth busnes. Fel arall, byddant yn talu treth cyngor ar raddfa uwch fel perchnogion ‘ail gartrefi’.
Gallai hyn fod yr ergyd farwol i aml i fusnes llety gwyliau dan berchnogaeth leol sy’n ffynhonnell incwm allweddol i gadw teulu yng nghefn gwlad. Oes diwydiant arall lle mae’r llywodraeth yn rheoli lefelau cwsmeriaid?
Mae’r mesur 182 diwrnod yn ceisio ffurfioli’r gwahaniaeth sylfaenol rhwng ail gartref a thŷ gwyliau ac mae hynny’n dda o beth. Nid yw pob tŷ gwyliau yn addas i’w osod yn hirdymor. Mae’r gofyniad i osod am 182 o ddyddiau yn gynnydd aruthrol o’r 70 diwrnod blaenorol. Rhwng Chwefror a Thachwedd, golyga osod am 75% o’r dyddiau. Mae’n sicr am fod yn dalcen caled.