Beca Brown
Mae o wedi gwisgo lifrai Nazi i barti gwisg ffansi, wedi cyfeirio at ei fêt yn y fyddin fel ‘Paki’, ac mae’r Tywysog Harry mewn dwr poeth unwaith yn rhagor am ddweud wrth ddigrifwr ‘stand-up’ nad ydi o’n swnio fel ‘a black chap’.
Daw hyn oll yn dynn ar sodlau ‘Gollygate’ wrth gwrs, lle y collodd Carol Thatcher ei swydd yn cyflwyno The One Show am iddi beidio ag ymddiheuro am gymharu chwaraewr tennis croenddu â’r ddoli a fu’n symbol anghysurus ers cyhyd o orthrwm y caethweision. Bu anghytuno am union natur yr hyn a ddywedodd hi – ai dweud ei fod yn debyg i Gollywog ynteu ei fod o’n Gollywog wnaeth hi? A bu llawer o drafod ar yr amgylchiadau yr oedd hi ynddyn nhw pan wnaeth hi’r gymhareb, os mai dyna oedd o – ydi Ystafell Werdd y BBC byth yn medru bod yn ‘breifat’? A bu dadlau chwyrn am y ‘PC brigade’, a’r dybiaeth ei fod wedi mynd dros ben llestri.