O Epynt i Esperanto, o John Terry i wleidydd rhyfeddaf America, ac o recordiau Saesneg ar Radio Cymru i J. D. Salinger … darllenwch farn Hefin Wyn, Euros Lewis, Dafydd ab Iago, Dot Davies, Andy Misell, Beca Brown ac Elin Llwyd Morgan. Ac ochr yn ochr ag adolygiad Gruffudd Owen o Y Gofalwr, mae Roger Owen ac Ian Rowlands yn gofyn beth nesa’ i’r theatr Gymreig. Am fersiwn lawnach o erthygl Ian Rowlands yn y cylchgrawn, ewch i’r ddewislen uchod, dewis ‘O’r Cylchgrawn Cyfredol’, a chlicio ‘Erthyglau’.
Bethan Kilfoil
Er bod Iwerddon, drwy deledu lloeren, yn derbyn cannoedd o sianeli radio a theledu, mae’r wlad yn hynod o driw i raglenni o Iwerddon ac am Iwerddon. Yno nid yw materion cyfoes yn cael eu hystyried yn ymylol. Ac mae un sioe yn arbennig wedi arwain, yn ogystal ag adlewyrchu, y newidiadau a fu yn y gymdeithas Wyddelig.