Yn y rhifyn Gwyl Dewi hwn, hanner canrif ers darlledu darlith Saunders Lewis Tynged yr Iaith, addas bod y Gymraeg a Chymreictod yn bwnc llosg mewn sawl erthygl. Mae’r awdur a’r newyddiadurwr Hywel Williams yn honni mai ‘ffantasi wrth-fodern’ yw siarad am gymunedau naturiol Gymraeg, a Richard Wyn Jones yn dweud bod angen mudiad iaith newydd. Yn ei gyfweliad cyntaf gyda Barn mae Ian Jones, pennaeth newydd S4C, yn sôn am yr her sydd o’i flaen ac am ei orffennol – gorffennol sy’n cynnwys y Trwynau Coch, mam-gu ddylanwadol ac esboniad ar y ffugenw ‘Tish’. Darllenwch farn ein colofnydd teledu newydd, Dafydd Fôn Williams, am arlwy diweddaraf y Sianel, a myfyrdod Dafydd ab Iago ar dewdra diarhebol y Cymry. Y tu hwnt i Gymru fach a’i phroblemau, mae Bethan Kilfoil yn trafod ymatebion pobl Iwerddon a Groeg i’w hargyfyngau economaidd a Luned Aaron yn disgrifio ymweliad â chartref plant yn un o ardaloedd tlotaf India. Hyn a llawer mwy ym misolyn gorau’r wasg Gymraeg.
Richard Wyn Jones
Cymru newydd angen mudiad iaith newydd
Ydi Cymdeithas yr Iaith yn ymgyrchu yn y modd mwyaf effeithiol bellach dros y Gymraeg? Neu a yw ffigyrau amlwg o’i gorffennol yn ymgysuro’n ormodol yn chwedloniaeth y mudiad gan droi tu min tuag at gyfeillion a’u cyhuddo o fod yn elynion?