Sut fyddwch chi’n croesawu’r gwanwyn? Gallech wneud yn waeth na mynd allan i brynu copi o’r rhifyn diweddaraf o Barn. Ymhlith yr erthyglau treiddgar arferol, mae gennym sawl un yn ymateb i ystadegau’r Cyfrifiad am y Gymraeg – gan Robat Trefor a Dafydd ab Iago, yn ogystal â darn Beca Brown, sydd ar y we. Eto’n berthnasol i ragolygon yr iaith, pam y mae papur gwyn Llywodraeth Cymru am fil datblygu cynaliadwy wedi dod dan lach rhai ymgyrchwyr? Dyna gwestiwn Emyr Lewis. A chwestiwn hefyd sydd gan Andrew Misell wrth droi ei olygon at Ewrop – ai peth da o angenrheidrwydd yw Ewrogarwch cynifer o genedlaetholwyr Cymreig o Saunders ymlaen? Mae cwestiwn arall eto wrth wraidd colofn Gareth Miles y tro hwn – pam y mae capeli Cymraeg heddiw mor ddiflas? Ac os nad yw hynny’n ddigon o gwestiynau i chi beth am roi cynnig ar ein Cwis Gwyl Ddewi, a chael siawns i ennill pecyn gwerth chweil o lyfrau amrywiol.
Richard Wyn Jones
Dal i ymchwilio i briodoldeb ymestyn pwerau Cynulliad Cenedlaethol Cymru y mae Comisiwn Silk.Ond y mis hwn disgwylir i Gomisiwn McKay adrodd ar statws Lloegr o fewn Ty’r Cyffredin mewn Prydain ddatganoledig. Cychwynna’r awdur gyda’r ffaith mai’r Democratiaid Rhyddfrydol fu’n gyfrifol am sicrhau parhad gorgynrychiolaeth Cymru yn San Steffan.
Afraid dweud na fu’r blynyddoedd diwethaf yn rhai rhwydd i Aelodau Seneddol y Democratiaid Rhyddfrydol. Cyn 2010 roedd y rhain yn bobl a arferai allu cyflwyno eu hunain fel gwleidyddion a oedd uwchlaw’r cyfaddawdu blêr sy’n rhan annatod o lywodraethu. Nhw oedd ceidwaid a chynheiliaid gwerthoedd ac egwyddor. Nhw oedd yn wahanol. Nhw oedd yn bur.