Adolygiad: ANWELEDIG gan Aled Jones Williams (Frân Wen)
Pontio, Bangor, 19 Chwefror
Diolch byth fod gennym ni fel cenedl gwmnïau celfyddydol sy’n cymryd mai peth naturiol yw gwneud defnydd o’n doniau cynhenid. Absẃrd o beth yw bod angen datgan hynny o gwbl, ond yng Nghymru yr ydan ni, wedi’r cwbl, lle mae un cwmni theatr ‘cenedlaethol’ i bob golwg yn gwaredu rhag rhoi unrhyw arlliw Cymreig ar gynyrchiadau nac artistiaid, a lle gall darlledwr ‘cenedlaethol’ wthio ar ein tonfedd ni wawdlun o gomedi [sic] sefyllfa [sic] fel Pitching In er mwyn gallu cyfiawnhau cyflenwi rhyw gwota o gynnyrch ‘Cymreig’. Digon i godi’r felan ar unrhyw un.
Wedi hynny oll, dyma fynd i weld monolog am iselder – a chodi ’nghalon…
Nid dweud gwamal mo hynny, oherwydd thema ddifrifol a dirdynnol sydd i Anweledig; thema sydd, ysywaeth, heb fod yn anghyffredin, gydag iselder yn taro cymaint y dyddiau hyn. Ond calondid oedd gweld ymdriniaeth ddeallus mewn cynhyrchiad a gynrychiolai barhad a phenllanw datblygiad artistig – a chalondid hefyd oedd chwerthin.