Yn ei ragair i’r llyfr a gyhoeddwyd i gyd-fynd â’r arddangosfa Refuge and Renewal: Migration and British Art, dan yr un teitl, mae’r curadur Peter Wakelin yn hel atgofion am ymweld, yn fachgen ifanc, â thŷ cymydog yn Ystradgynlais. Yno fe ddaeth wyneb yn wyneb â’r dylunydd Georg Adams-Teltscher, a oedd wedi astudio yn ysgol gelf y Bauhaus yn Weimar y 1920au. Esbonia Wakelin sut yr oedd siarad ag un o gyn-fyfyrwyr y Bauhaus ‘fel ymestyn allan a chyffwrdd y lleuad’, gan fod y Bauhaus mor bresennol â’r lleuad yn ei ddychymyg ef. Rywsut, agorodd drysau’r byd i’r llanc. Ac felly yr eginodd prosiect oes o archwilio, drwy brism celfyddyd weledol a’i hanes, y cysyniad o fyd sydd ar newid, byd sy’n llai nag yr ydym yn aml yn tybio, ac sy’n cuddio pocedi o fydoedd estron ym mhob man yr edrychwch, hynny yw os mynnwch edrych.
Mae’r arddangosfa sydd ar fin agor yn MOMA Machynlleth wedi datblygu o astudiaeth hir-dymor Wakelin o’r themâu hyn.