Lled debyg mai dynwared Llywodraeth y Deyrnas Unedig a wnaeth Llywodraeth Cymru wrth roi Diwylliant a Chwaraeon yng ngofal un Gweinidog – nage, yng ngofal un Dirprwy-weinidog. Ers tair blynedd i fis Tachwedd diwethaf bu’r materion hyn yng ngofal yr Arglwydd Elis-Thomas, a fu ers tro braidd yn gyndyn ei ganmoliaeth i nifer o sefydliadau diwylliannol y Gymraeg (pryd ddiwethaf y clywsoch ganddo air da am y Brifwyl?), ac na fu erioed, am a wn i, yn flaenllaw fel cefnogwr brwd i’r campau ar lawr gwlad (er inni ei weld yn cymryd ei le, fel y dylsai, gyda swyddogion Undeb Rygbi Cymru yn un o eisteddleoedd Stadiwm y Principality ar brynhawniau rhyngwladol).
Ddiwedd Ionawr, i warchod dyfodol rhai campau rhag difethdod yn ystod y pandemig, cyhoeddodd y Dirprwy-weinidog ei fod yn neilltuo £17.7 miliwn i chwaraeon yng Nghymru. Roedd mwy na thri-chwarter yr arian i fynd i’r Undeb Rygbi. Cafodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru filiwn a hanner o bunnau, un rhan o ddeuddeg yr hyn a roddwyd i rygbi.