Wn i ddim ai fi ydi’r unig un, ond fe fyddaf yn meddwl yn aml am y cyfnod o saith wythnos rhwng 5 Mai a 23 Mehefin 2016, sef – wrth gwrs – y cyfnod rhwng yr etholiad ar gyfer Cynulliad Cenedlaethol Cymru (fel ag yr oedd bryd hynny) a’r refferendwm ar aelodaeth y Deyrnas Unedig o’r Undeb Ewropeaidd.
O wybod beth yr ydym yn ei wybod yn awr am oblygiadau Brexit i economi, cymdeithas a gwleidyddiaeth Cymru, go brin y gellir gwadu nad oedd y refferendwm ymysg y pleidleisiau democrataidd mwyaf arwyddocaol yn ein hanes cenedlaethol. Efallai mai dim ond refferendwm 1997 sydd wedi profi’n bwysicach? Eto i gyd, y caswir amdani yw bod y cyfnod rhwng yr etholiad a’r refferendwm yn gyfnod pan na chlywyd nemor ddim o gyfeiriad ein dosbarth gwleidyddol. Yn wir, prin y cafwyd unrhyw ymgyrchu cyhoeddus o sylwedd, yn enwedig o du’r rhai hynny a oedd am barhau’n aelodau o’r UE.