Yn eistedd dan blac ‘Prif Weinidog Cymru’, sydd ar wal ystafell Cabinet Llywodraeth Cymru ym Mae Caerdydd, mae Mark Drakeford yn cael llymaid o goffi. Fel sy’n arferol, dwi’n canfod y Prif Weinidog mewn hwyliau hamddenol, er ein bod ni’n cwrdd yn ystod wythnos gythryblus i ddatganoli. Ddyddiau yn unig ynghynt roedd llywodraeth Rishi Sunak wedi defnyddio feto yn erbyn Bil Diwygio Cydnabod Rhywedd yr SNP gan roi pwysau digynsail ar setliad cyfansoddiadol y Deyrnas Unedig.
‘Nawr yw’r amser i gryfhau’ – mae’n ailadrodd y gair er mwyn ei bwysleisio – ‘popeth sydd i’w wneud â datganoli,’ meddai Drakeford, bron yn syth ar ôl i ni gychwyn ein cyfweliad. O leiaf mae’r Prif Weinidog yn gyson ei ddadleuon. Mae’n dweud bod y ffraeo gwleidyddol rhwng San Steffan a Holyrood yn adlewyrchu ‘pwysigrwydd’ adroddiad Gordon Brown ar ddyfodol y Deyrnas Unedig. Mynna’n daer mai dim ond y llywodraeth Lafur yma yng Nghymru sydd wedi dangos agwedd bragmataidd tuag at ddatblygu perthynas gyfansoddiadol newydd ac aeddfed.