Mawrth 2024 / Rhifyn 734

Sioned Dafydd wrth ei gwaith fel sylwebydd pêl-droed
Llyfrau

Angerdd, hwyl a thelyn goll – holi Sioned Rowlands

Yn ei rhagair i’w blodeugerdd newydd o gerddi am fyd chwaraeon mae’r ddarlledwraig Sioned Dafydd yn datgelu cyfrinach deuluol ddoniol. Flynyddoedd mawr yn ôl, ymhell cyn ei geni hi, penderfynodd ei mam-gu werthu’i thelyn a hynny er mwyn prynu tocynnau tymor yn y Vetch i’w gŵr a’i thri mab. Y gŵr yn y stori hon – tad-cu Sioned – oedd y Prifardd a’r Archdderwydd Dafydd Rowlands.

Saith oed oedd Sioned pan fu farw Dafydd Rowlands yn 2001. Oes, mai ganddi rai atgofion amdano, ac mae hi’n falch fod teitl y flodeugerdd y mae wedi’i golygu – Mae Gêm yn fwy na Gêm – yn deillio o gerdd anghyhoeddedig sydd ganddo yn y gyfrol; cerdd am y gyrrwr ceir Fformiwla Un Ayrton Senna yw honno.

Peredur Lynch
Mwy
Siambr Stormont hefo Michelle O’Neill ac Emma Little‑Pengelly
Iwerddon

Merched wrth y llyw wrth i Stormont ailymgynnull

Wel, maen nhw nôl o’r diwedd. Ar ôl dwy flynedd o rwystredigaeth, fe symudodd pethau’n gyflym iawn yng Ngogledd Iwerddon. O fewn dyddiau i’r arwydd cyntaf ddod gan Jeffrey Donaldson, arweinydd y DUP, fod ei blaid yn barod i gymryd ei lle yn Stormont, roedd llywodraeth ddatganoledig Gogledd Iwerddon yn ôl yn gweithio. Ar ddydd Sadwrn, 3 Chwefror, ddwy flynedd yn union ers i’r DUP dynnu allan o Stormont mewn protest yn erbyn trefniadau ôl-Brexit, gan ddymchwel y llywodraeth, roedd yr aelodau etholedig yn ôl yn y siambr yn barod i ailgydio yn eu dyletswyddau.

Am y tro cyntaf, mae gan Ogledd Iwerddon Brif Weinidog o’r ochr arall – yr ochr Weriniaethol. Ac er fy mod i – fel pawb arall – yn gwybod mai Michelle O’Neill, dirprwy arweinydd Sinn Féin, fyddai’r Prif Weinidog, roedd ei gweld hi wrth y llyw, go iawn, yn teimlo fel rhywbeth rhyfeddol, syfrdanol.

Bethan Kilfoil
Mwy
Rishi Sunak, John Major, Tony Blair, Keir Starmer
Gwleidyddiaeth

1997 a 2024 – y tebyg a’r annhebyg mewn blwyddyn etholiadol

Mae hi fwy neu lai’n union 27 mlynedd ers i Simon Brooks gysylltu â mi i holi a fyddwn i’n fodlon cyfrannu colofn fisol i’r cylchgrawn hwn. Os ydw i’n cofio’n iawn, byrdwn ei gais oedd ein bod ar drothwy etholiad cyffredinol a oedd yn debygol o arwain at newidiadau mawr yng ngwleidyddiaeth Cymru a’i fod yn awyddus i BARN gynnwys colofn a fyddai’n cofnodi a dadansoddi’r hyn oedd ar ddyfod. A dyma fi, yma o hyd, yn dal i geisio gwneud hynny.

Rwy’n nodi hyn am ein bod bellach ar drothwy etholiad cyffredinol Prydeinig arall a allai’n hawdd esgor ar ganlyniad tebyg iawn i’r un a welwyd yn ôl yn 1997. A bwrw na fydd adferiad a fyddai’n cymharu ag atgyfodiad Lasarus gynt, mae’r Ceidwadwyr ar fin cael eu sgubo o’r neilltu gyda Llafur yn ffurfio llywodraeth yn eu lle.

Richard Wyn Jones
Mwy

Cip ar weddill rhifyn Mawrth

Gwaith dur Port Talbot - a oes achubiaeth?Sioned Williams AS
Tynged yr Wyddeleg - boed yn rhybuddCeri Jones
Croeso gofalus i wefan gelf Dylan Huw
Offerynnau’n siarad - holi Richard Baker Menna Baines
Pethau anghofiedig a chofiedig teulu dynDeri Tomos
Diolch am Gareth, Gwyn a JonathanDerec Llwyd Morgan
Cofio Robin Okey, hanesydd ‘mwyaf gwreiddiol’ CymruSimon Brooks

Mwy
Barry John ar glawr Barn, Medi 1971,  a Carwyn James
Coffa

Barry John a Barn

Bu gan Barry John gyswllt agos â BARN. Dros y blynyddoedd cyhoeddwyd sawl erthygl dreiddgar ganddo am fyd rygbi, yn enwedig yn ystod cyfnod golygyddiaeth Rhydwen Williams ar ddechrau’r 1980au. Roedd dau gwlwm pwysig rhwng y chwaraewr byd-enwog a’r cylchgrawn – ei dad yng nghyfraith, Syr Alun Talfan Davies, oedd un o sylfaenwyr BARN. Ymhellach, yn ystod cyfnod golygyddiaeth Alwyn D. Rees bu mentor Barry, a’i gyd-bentrefwr, Carwyn James, yn olygydd ar Adran Addysg y cylchgrawn. Cyhoeddir yma ddetholiad o ysgrif goffa Barry i Carwyn James a ymddangosodd yn 1983.

Pentref y pentrefi yw Cefneithin i unrhyw un a faged yno. Cymdeithas fechan ydyw o hyd fel erioed. Mae pob wyneb yn gyfarwydd. Pob ffenest a drws yn gyfarwydd yr un modd. Byd bychan ydyw, ond y mae ei iaith a’i dywydd a’i fywyd beunyddiol yn ail i ddim sydd tu allan iddo… Anaml yn ystod yr holl genedlaethau y ganwyd un oedd yn uwch o’i ysgwyddau na’r rhelyw. Bron na fentrwn ddweud mai Carwyn James oedd y cyntaf… tywysog ymhlith ei bobl, ond yn ‘un ohonom ni’ hyd y diwedd.

Mwy
Hogia Maes
Ffotograffiaeth

Pobol Caernarfon trwy lens Iolo Penri

Nid yn aml y daw’r cyfle i’r ffotograffydd Iolo Penri arddangos lluniau y mae’n dewis eu tynnu ei hun o’u cyferbynnu â gwaith comisiwn, ond tan y Pasg bydd cyfran o’i gasgliad o luniau du a gwyn Cymeriadau Caernarfon i’w gweld ar waliau bar Y Segontiwm. Dydi’r fan honno ddim ond ychydig gamau o’i gartref yn y dref y mae wedi ymsefydlu ynddi ers dros bymtheng mlynedd.

Yn ystod y prynhawn cyn agoriad yr arddangosfa dwi’n ei gyfarfod am sgwrs dros ddiod mewn tafarn gyfagos ac mae’n dangos y lluniau i mi ar sgrîn ei liniadur. Yn eu plith mae ffotograffau o rai o blant y dref, gan gynnwys dau wedi’u tynnu ar y Maes.

‘Hogia a genod ar y Maes – yr un gang ydyn nhw, ar yr un diwrnod, dwi jest wedi troi rownd – faint ydi’u hoed nhw, tua 15, ella’n ’fengach? Sbia hwnna efo ffag yn ei geg a boombox! Ma’n nhw’n nabod fi rŵan a bob tro’n deud “Iawn mêt?”’

Nici Beech
Mwy
Ffermwyr yn cyfarfod i drafod cynlluniau Llywodraeth Cymru
Amaeth

Digon yw digon…

Dan faneri’n cario’r neges syml ‘digon yw digon’, daeth dros 4,000 o ffermwyr ynghyd mewn dau gyfarfod, un yn y Trallwng a’r llall yng Nghaerfyrddin, i fynegi eu pryderon, eu dicter ond yn anad dim eu rhwystredigaeth gyda Llywodraeth Cymru. O ystyried agwedd sarhaus a haerllug Llywodraeth San Steffan tuag at y sector amaeth ers y bleidlais dros Brexit, mae llwyddo i gorddi amaethwyr Cymru i’r fath raddau yn dweud cyfrolau am fethiant Llywodraeth Cymru i ddeall a gwrando ar bryderon ffermwyr.

Ymddengys mai’r ymgynghoriad diweddaraf ynghylch y Cynllun Ffermio Cynaliadwy oedd yn gyfrifol am danio’r anniddigrwydd, ond penllanw cyfnod maith o gredu nad oes gan Lywodraeth Cymru ddiddordeb yn yr heriau sy’n wynebu’r sector yw gwir asgwrn y gynnen. Beth felly sydd wedi mynd o’i le?

Guto Bebb
Mwy
Joe Biden a Robert Hur
Materion y mis

Un gambl yn ormod?

Las Vegas oedd ffocws 120 miliwn o Americanwyr ar 11 Chwefror eleni wrth i garnifal blynyddol y Super Bowl ymweld â phrifddinas hapchwarae’r Unol Daleithiau. Ond nid yn Las Vegas y canfyddir gamblwyr mwyaf America heddiw, eithr yng nghoridorau pŵer Washington lle mae cadfridogion y Tŷ Gwyn yn mynnu y gall Joe Biden ennill ail dymor fel Arlywydd. Rhwng muriau cedyrn 1600 Pennsylvania Avenue, mae arweinwyr y Blaid Ddemocrataidd yn barod i fentro y gall gŵr 81 oed gadw gafael ar y Tŷ Gwyn yn yr etholiad arlywyddol pwysicaf mewn degawdau.

Amlygwyd graddfa’r risg i’r Democratiaid yn adroddiad diweddar y cwnsler arbennig Robert Hur. Daeth yr adroddiad hwnnw i’r casgliad nad oedd unrhyw achos cyfreithiol i’w ateb gan Biden, er ei ddiofalwch wrth ymdrin â dogfennau sensitif a chyfrinachol. Ond yr hyn a hawliodd y penawdau oedd portread Hur o Biden fel hen ŵr anghofus a chanddo feddwl diffygiol.

Garmon Dyfri
Mwy
Castell Brychan, cartref Cyngor Llyfrau Cymru
Darllen am ddim

Cyllid a’r Gymraeg – toriadau anghyson?

Mae’r glaw diddiwedd a ddisgynnodd ar Gymru am naw mis wedi stompio pob dôl a diflasu pob cwrcyn. Ond nid yw hynny’n ddim o’i gymharu â’r llanast sydd wedi digwydd yn ein gwasanaethau cyhoeddus yn y pymtheg mlynedd diwethaf wrth i un storm o lymder ddilyn y llall.

Y corff sydd wedi cael ergyd galed y tro hwn ydi’r Cyngor Llyfrau fydd yn colli 10.5% o’i gyllid. Bydd yr effaith i’w deimlo gan awduron, gweisg, siopau llyfrau a’r Cyngor ei hun heb sôn am ddarllenwyr. Go brin y bydd awduron allan ar yr heolydd yn bygwth malu eu beiros a thaflu eu gliniaduron, a phe buasen nhw’n gwneud hynny pwy fyddai’n cymryd sylw?

Ond mae gan Lywodraeth Cymru nod clodwiw i greu miliwn o siaradwyr Cymraeg onid oes? Siawns nad yw annog plant a phobl i ddarllen yr heniaith yn rhan o gynllun felly? Cofiwch chi, welais i yr un cynllun, felly be wn i? A beth sy’n od ydi bod cyrff allweddol eraill sy’n hyrwyddo’r Gymraeg ac o dan ofal Jeremy Miles yn yr Adran Addysg, megis y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, wedi cael eu gwarchod i raddau. Ond gan fod grant y Cyngor Llyfrau mewn adran arall fe gollodd y dydd. Polisi cydlynol? Sgersli bilîf!

Mae’n werth ystyried sut y tanseiliwyd y corff sydd mor allweddol i gynnal ein diwydiant cyhoeddi yng Nghymru. Tair ffaith i chi. Mae grant y Llywodraeth i’r Cyngor Llyfrau, a thrwyddyn nhw i’r gweisg a phawb arall, bellach yr union yr un swm ag yr oedd o ugain mlynedd yn ôl. Yn y cyfamser, mae cost cyhoeddi llyfr wedi cynyddu o chwarter. Mae nifer staff y Cyngor wedi gostwng o 50 i 38 a bydd rhagor o golli swyddi yn dilyn y penderfyniad hwn. Gwneud mwy gyda llai oedd y mantra gan bob llywodraeth wrth gwtogi arian, ond jôc wael ydi hi bellach.

Alun Ffred Jones