Mae gwledd o ddarllen yn eich aros yn rhifyn Medi, gan gynnwys yr erthyglau a welwch yma. A’r rhifyn ar fin mynd i’r wasg daeth y newydd trist am farw Dic Jones; rhan gyntaf ein coffâd i’r bardd sydd yn y rhifyn hwn, felly, i’w barhau yn y rhifyn nesaf. Ceir y dadansoddi miniog arferol ar faterion Cymreig y dydd. Er enghraifft, faint o wir achos llawenhau sydd yn y cyhoeddiad diweddar fod nifer y di-waith yn Nghymru wedi gostwng, yn wahanol i bob un arall o wledydd Prydain? A’r tymor pêl-droed wedi ailddechrau, mae byd y bêl yn cael sylw o dair ongl dra gwahanol dan dri o’n cyfranwyr rheolaidd, gan gynnwys Beca Brown sy’n dweud sut y mae hi wedi troi’n ‘Ffwti Mam’. Yn ein cyfres newdd ‘Hon yw fy stafell i’, y dramodydd a’r sgriptiwr teledu Siôn Eirian sy’n disgrifio ei stydi. Cewch adolygiadau di-flewyn ar dafod o bopeth, o gelf a llên yr Eisteddfod i grynoddisgiau newydd. Ac yn yr atodiad theatr (a gaiff ei gyhoeddi yn y cylchgrawn yn chwarterol) mae Jeremy Turner, cyfarwyddwr cwmni Theatr Arad Goch, sy’n 20 oed eleni, yn dweud pam mae yna lawer mwy i theatr ar gyfer plant na phantomeim. Peidiwch ag oedi – bachwch eich copi cyn i’r cylchgrawn werthu allan, fel sydd wedi digwydd mewn sawl siop yn ddiweddar.
Vaughan Hughes
A’r rhifyn hwn o Barn ar fin mynd i’r wasg bu farw Dic Jones, yr Archdderwydd. Ein braint y tro hwn yw cael gosod llun ohono ar glawr y cylchgrawn a chyhoeddi hir a thoddeidiau Peredur Lynch er cof amdano. Byddwn yn cyhoeddi gwerthfawrogiad llawn o fywyd a gwaith Dic yn rhifyn yr Hydref.