Vaughan Hughes
Byddai angen i chi fod yn berson eithaf calon galed i beidio cael eich cyffwrdd o gwbl gan y darlun uchod. Dyma Kynan McGregor. Efo’i bêl dan ei gesail mae o’n sefyll ar ei ben ei hun ar iard wag un o ysgolion cynradd cefn gwlad Cymru. Does gan Kynan neb i chwarae efo fo. Does gan Kynan yr un ffrind yn yr ysgol. Nid am fod Kynan yn fachgen amhoblogaidd. Dim o’r fath beth. Mae o ar ei ben ei hun am un rheswm yn unig. Kynan yw disgybl olaf ysgol Ty Mawr, Capel Coch, Ynys Môn. Agorwyd yr ysgol ym mis Medi 1917. Fe gaeodd hi ym mis Gorffennaf eleni. Am bum wythnos olaf tymor yr haf, Kynan a’i brifathro a’i athrawes oedd yr unig rai a oedd ar ôl yn ysgol Ty Mawr.