Medi 2011

Efallai fod y gwyliau ar ben a’r nosweithiau’n byrhau, ond fe wnaiff Barn mis Medi eich cadw’n ddiddig am oriau. Dim ond pigion a welir yma. Am y wledd lawn, mynnwch gopi. Darllenwch ragor am adladd yr Eisteddfod, yn gelf a llên, gan Aled Rhys Hughes, Gwenan Mared ac Aled Islwyn. Darllenwch farn Sioned Williams am gynlluniau S4C i gael gwared o Wedi 3 ac Wedi 7. Darllenwch am hoff stafell Branwen Niclas (sydd ar olwynion), am gynnyrch cyntaf gwinllan Pant Du fel y’i blaswyd gan John Rowlands, a llawer mwy.

America ar ôl 9/11

Chris Cope

Ddeng mlynedd wedi’r ymosodiadau a arswydodd y byd, Americanwr sy’n gofyn beth sydd wedi newid yn yr Unol Daleithiau yn sgil gweithredoedd y terfysgwyr.

Chris Cope
Mwy

Anfadwaith Utøya

Richard Wyn Jones

Yn briod â merch o Norwy, mae’r awdur yn rhannu ei amser rhwng y wlad honno a Chymru. Yma mae’n cyfleu penderfyniad arwrol y bobol i lynu at eu gweledigaeth o Norwy wâr a goddefgar er gwaethaf cyflafan mis Gorffennaf.

Richard Wyn Jones
Mwy

Steddfod y Sbort a’r Salsa

Gruffudd Owen

Sut Eisteddfod oedd hi o ran drama eleni? Un ddifyr ac adloniannol ond braidd yn brin o sylwedd, yn ôl adolygydd Barn.

Gruffudd Owen
Mwy

Dan Ddylanwad

Vaughan Hughes

Mae'r Cyfansoddiadau gyda'r gwerthwr gorau ym myd llyfrau Cymraeg bob blwyddyn. VAUGHAN HUGHES sy'n pwyso a mesur y gyfrol ddiweddaraf.

Vaughan Hughes
Mwy

Gwarth y Golchdai

Bethan Kilfoil

Sgandal golchdai’r Magdaleniaid: staen hyll arall ar hanes Iwerddon

 

Ymhlith yr holl achosion erchyll sydd wedi siglo Iwerddon yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae hanes gwarthus y Magdaleniaid. Cafodd cenedlaethau o ferched honedig ddrwg eu gorfodi i weithio fel caethweision mewn cadwyn o olchdai dan oruchwyliaeth lleianod. Roedd llawer o’r merched hyn yn gwbl ddieuog o unrhyw gamymddwyn rhywiol.

Ym mharc St Stephen’s Green, yng nghanol Dulyn, ger coeden fagnolia, mae mainc bren. Arni mae plac gyda’r geiriau: ‘I’r merched a weithiai yng Ngolchdai Magdalen, a’r plant a anwyd i rai ohonynt. Oedwch yma ac ystyriwch eu bywydau’.

Bethan Kilfoil
Mwy