Medi 2012

Mae hwn yn rhifyn Olympaidd ar sawl gwedd, gyda’r sioe o Brydeingarwch a fu o gylch y Gemau wedi ysgogi colofnwyr fel Derec Llwyd Morgan a Richard Wyn Jones, i ystyried arwyddocâd hynny i genedlaetholwyr yn y Gymru a’r Alban ddatganoledig. Cofio am y rhai hynny ohonom sy’n casáu chwaraeon y mae Beca Brown – ai newid agweddau at ymarfer corff fydd gwaddol pwysica’r Gemau? Yn y cyfamaser mae gennym adran gyfan yn pwyso a mesur prifwyl arall yr haf – Eisteddfod Bro Morgannwg. Darllenwch hefyd feddyliau Andrew Misell am y modd y lladdwyd pob gobaith am ddiwygio Ty’r Arglwyddi am ddegawd a rhagor,  ymateb y meddyg teulu Catrin Elis Williams i’r defnydd helaeth o gyffurfiau gwrthiselder yng Nghymru, barn Will Patterson am gwymp Rangers, a chyfweliad gyda’r canwr-gyfansoddwr o Ddyffryn Conwy, Dan Amor, a’i fam sy’n arlunydd proffesiynol. Hyn oll a llawer mwy.

 

Cwrs y Byd - Y Gwych a’r Gwachul

Vaughan Hughes

Eisteddfodau Cenedlaethol y Gogledd yn unig dwi wedi bod yn ymweld â nhw yn y blynyddoedd diwethaf gan fynd a dwad ddwywaith neu dair yr wythnos yn fy nghar. Mae’n bur debyg mai adwaith yw hynny, yn rhannol o leiaf, i’r chwarter canrif a dreuliais yn darlledu’n ddyddiol o’r Maes, yn aml tan berfeddion nos. Gormod o bwdin, fel petai. Eleni, fodd bynnag, golygai pen-blwydd Barn yn hanner cant bod yn rhaid imi fod yn bresennol yn Y Fro. Felly, am y tro cyntaf ers Tyddewi 2002, nid picio i’r Steddfod oedd fy hanes. Blasais y Brifwyl o bnawn Llun tan imi ei throi hi am adra ar y bore Iau. Ac mae’n rhaid imi ddweud bod hynny wedi rhoi amgenach gwerthfawrogiad imi o’r newidiadau a ddigwyddodd i’r Steddfod yn y deng mlynedd diwethaf.

Llun gan Marian Delyth

Vaughan Hughes
Mwy

Fflam Unoliaethol yr Olympics – neu dân siafins?

Richard Wyn Jones

A heip Gemau Olympaidd Llundain yn hollbresennol dros yr haf, mae rhai’n llawenhau ac eraill yn ofni bod y cwlwm sy’n dal gwledydd Prydain yn sownd yn ei gilydd yn dynnach bellach nag y bu ers cenedlaethau. Ond ai dyna’r gwir?

Richard Wyn Jones
Mwy

Dan Amor

Ann Gruffydd Rhys

tir amor
Canwr-gyfansoddwr o ardal Dyffryn Conwy yw Dan Amor, ac arlunydd proffesiynol yw ei fam, Yvonne. Aeth ANN GRUFFYDD RHYS i Gwm Penmachno i’w cyfweld.

'Dan Amor, a'i fam Yvonne'

Rywbryd tua 2008 daeth canwr newydd i ty ni. Wysg ei ochr y daeth i mewn, yn ddigon diymhongar. Cyn hir roedd ei lais yn rhan o’n bywyd bob dydd. Mynnai ei gerddoriaeth ailchwarae yn ein pennau, ar ôl i’r CD dawelu, fel y bydd rhai caneuon. A’r darluniau – roedd golygfeydd, a haul, a glaw yn aros, fel olion disglair o flaen ein llygaid. Gwnaethom le iddo ar ein silffoedd gorlawn, a daeth yn gydymaith cyson i ni nid yn unig gartref ond ar deithiau hir hyd priffyrdd Cymru a thu hwnt.

Ann Gruffydd Rhys
Mwy

“Brenhines ein Llên”

Bethan Kilfoil

Ddiwedd Gorffennaf eleni sgubodd ton o alar dros Iwerddon gyda marwolaeth Maeve Binchy, nofelydd a ystyrid yn drysor cenedlaethol.

Bethan Kilfoil
Mwy

Eileen Beasley (1921–2012)

Cynog Dafis

Eileen Beasley a’i gwr, Trefor, a ddechreuodd y traddodiad o weithredu’n uniongyrchol dros yr iaith Gymraeg.

Pan ddaeth Eileen a Trefor Beasley ynghyd fe grewyd cyfuniad dansierus (yng ngwir ystyr y gair) o ddeallusrwydd, diwylliant, minogrwydd dadansoddol, cyndynrwydd ystyfnig, cymwynasgarwch, cynhesrwydd rhadlon, ac yn arbennig ddewrder.

Cynog Dafis
Mwy

Annibyniaeth Barn

Yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas

Dyma’r ddarlith a draddododd Yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas yn Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg fel rhan o ddathliadau Barn yn hanner cant oed eleni.

Llun gan Marian Delyth

Stori am ddau bâr o frodyr yw hyn, dau bâr o geffylau deallusol dan ddwy dwy wedd os hoffwch chi ddelwedd amaethyddol.  Adroddaf i hi yma heddiw o ran parch a chydnabod dyled personol,  ond hefyd o ran gosod cyd-destun hanesyddol i’r drafodaeth a gychwynnwyd ac a gynhaliwyd ganddynt, trafodaeth yr ydym ninnau heddiw yn parhau yn rhan ohoni.  Mae’r ddau bâr o frodyr nid yn unig yn gyd-gyfrifol am y cylchgrawn ‘Barn’ ond yn sicr ddigon am y cyd-destun ysgolheigaidd a deallusol  y mae ein trafodaeth heddiw yn barhad clir ohoni.

Dafydd Elis Thomas
Mwy