Yn y rhifyn diweddaraf mae llu o erthyglau treiddgar ar bynciau cyfredol o bob math. Mae Dafydd Iwan yn ymateb i'r difrod diweddar ar wal 'Cofiwch Dryweryn' ac ar ddarn o Glawdd Offa – a yw'n achos ffromi? Dadansoddiad o'r helyntion gwaedlyd yn yr Aifft a gawn gan Pedr Jones. Os am wybod pam y gwnaeth Llysgenhadaeth America unwaith archebu'r Faner, darllenwch erthygl Harri Pritchard Jones. Ym myd llên, mae John Rowlands yn ymateb yn chwyrn i honiadau diweddar Emlyn Evans am safon nofelau Cymraeg, a Bethan Kilfoil yn trafod un o'r nofelau gorau am Iwerddon. Drama sydd dan sylw gan Simon Brooks, sy'n dadlau y dylai'r Theatr Genedaethol fod wedi gosod Blodeuwedd yn y 1920au. Cewch hefyd ymateb ein hadolygwyr Eisteddfodol i adladd Dinbych, yn llên, theatr, cerddoriaeth a chelf, gan gynnwys adran lle mae un ar ddeg o ymwelwyr â'r Lle Celf wedi dewis eu hoff weithiau yn yr arddangosfa – a dim ond dau wedi dewis gweithiau buddugol. Am hyn oll a mwy, bachwch eich copi.
John Stevenson
Swn y gwynt sy’n chwythu
Trwy gipio dros deirgwaith yn fwy o bleidleisiau na Llafur, cafodd Plaid Cymru fuddugoliaeth nodedig ar Awst y cyntaf eleni. Enillodd Rhun ap Iorwerth, Aelod Cynulliad newydd Môn, 58% o’r pleidleisiau mewn ras rhwng chwe ymgeisydd. Dim ond cael a chael wnaeth Llafur i wthio UKIP i’r trydydd safle, a phedwerydd gwael oedd ymgeisydd y Torïaid. Trafodir yma arwyddocâd y canlyniad i wleidyddiaeth Cymru’n gyffredinol.
Feddyliais i erioed y byddai’r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas yn cael ei gludo ar gefn trelar drwy Langefni fel rhan o garnifal y dref. Dyna’r arwydd cyntaf fod ymgyrch isetholiad Môn yn mynd i fod yn bur wahanol i etholiadau arferol y Cynulliad Cenedlaethol. Ac felly y bu.