Medi 2014

Yn y rhifyn cyfredol, mae John Stevenson yn trafod yr angen i'r Blaid Lafur ei siapio hi yn y broydd Cymraeg; ein colofnydd Ewropeaidd Dafydd ab Iago yn gofyn beth wnaiff Juncker gyda'r 'broblem a elwir yn Brydain'; a'n hadolygydd crynoddisgiau Eiry Miles yn croesawu caneuon Yws Gwynedd (Frizbee gynt) fel rhai 'i'w chwarae ffwl-blast yn y car'. Hyn, yn ogystal â'r erthyglau a welwch yma, a llawer mwy mewn rhifyn dwbl can tudalen – bachwch gopi.

                                                                RHIFYN NESAF     
Ymhlith erthyglau rhifyn Medi bydd Elfyn Pritchard, Huw Jones a Peredur Lynch yn coffáu Gerallt Lloyd Owen; a Hefin Jones, Gruffudd Owen, Vaughan Hughes, Ceridwen Lloyd-Morgan, Gwawr Ifan ac Aled Islwyn yn cloriannu Eisteddfod Sir Gâr a'i chynnyrch.

                    CYNNIG I DANYSGRIFWYR NEWYDD – 3 rhifyn am ddim     
                    Tanysgrifiwch am flwyddyn neu fwy cyn diwedd Medi ac fe gewch y tri rhifyn cyntaf yn rhad ac am ddim. Cliciwch ar TANYSGRIFIO isod ac fe wnawn ni'r gweddill. Neu ffoniwch y swyddfa (01267 245676) neu lenwi'r ffurflen sydd yng nghefn y cylchgrawn.

 

 

 

Sefyll Yn Nrws Ei Fyd – Cofio Gerallt Lloyd Owen

Elfyn Pritchard

Ym mis Gorffennaf eleni, yn 69 oed, bu farw Gerallt Lloyd Owen, un o feirdd Cymraeg mwyaf arwyddocaol ein hoes.

Roedd hi’n addas rywsut ei bod yn hwyrhau pan glywais i am farwolaeth Gerallt gan mai i gysgodion y nos y perthynai’r newyddion, nid i oleuni llachar yr haul. Mi es i allan o’r ty ar fy union ac edrych i lawr ar y pentre a Broncaereini ei hen gartre sydd bellach yn wag, a daeth cwpled o un o’i englynion coffa i Bob Lloyd – Llwyd o’r Bryn – i’r meddwl:
   
    Ias hwyrnos sy’n y Sarnau
        Oer ias y bedd dros y bau.

Roedd hi’n noson hafaidd gynnes, ond roeddwn i’n rhyw sgrytian wrth glywed yr ias a chael yr hen deimlad yna o chwithdod a hiraeth y gwyddon ni i gyd mor dda amdano, a’r gwacter na all neb ei lenwi.

Un Gerallt oedd yna wrth gwrs, ond roedd iddo amryw weddau. I’w gyd-ddisgyblion yn y Sarne – a phwysig cofio mai un o blant y Sarne oedd o – y fo oedd yr hogyn direidus mentrus y bu bron iddo foddi yn Llyn Caereini er mawr ddychryn i’w fêts, y saethwr nad oedd yr un deryn yn ddiogel pan oedd o gwmpas, y tynnwr coes a’r chwaraewr tricie a oedd yn gollwng llygod bach o drapie yn yr ysgol, y math o drapie oedd yn eu dal yn fyw a Gerallt yn rhoi ail gynnig ar fywyd iddyn nhw, heb yn wybod i’r prifathro wrth gwrs.

I’w dad a’i fam y fo oedd yr hogyn a fu’n ddifrifol wael pan oedd o’n blentyn ac un oedd angen ei fwydo’n gorfforol a meddyliol. Ac i Bob Lloyd, dyma’r athrylith ifanc yr oedd angen ei feithrin a’i ddatbygu a hynny yn y gymdeithas lawen, glos, ddiwylliedig, gapelog a oedd yn nodweddu’r Sarne ym mlynyddoddedd canol y ganrif ddiwethaf.

I ni fel teulu, bardd dwy ar bymtheg oed oedd Gerallt pan ddaethon ni i’w nabod o gynta, yn astudio at ei lefel A ac yn gwneud popeth ond astudio, un o deulu o feirdd, wedi ei fagu ar aelwyd lle y trafodid barddoniaeth yn amlach na’r tywydd. Mi fydde’n galw heibio ty ni ddwywaith neu dair yr wythnos yn y cyfnod hwnnw i drafod y gerdd ddiweddaraf a gyfansoddwyd ganddo, i dynnu coes gyda pharodïau, i chwerthin, gyda’r wich yn ei frest yn nodwedd ohono hyd yn oed bryd hynny, i ofyn mewn cywydd am fenthyg fan i fynd i Eisteddfod Dyffryn Conwy.

Elfyn Pritchard
Mwy

Swn Da A Digon Ohono – Cloriannu Gigs Eisteddfod Sir Gâr

Hefin Jones

Roedd amrywiaeth ryfeddol o gigs a gweithgareddau yn fodd i wneud Eisteddfod eleni’n un gofiadwy i ddilynwyr cerddoriaeth gyfoes Gymraeg.

Nid yr un yw’r Eisteddfod i bawb. Diwrnod yn y pafiliwn a phic i’r Babell Lên cyn swper ac yna ciando yn y garafan i rai. Treps rownd y maes a gwin yn Pl@tiad cyn cyngerdd neu stomp neu noson lawen yn y pafiliwn i eraill. Ac i eraill eto, dau neu dri pnawn hwyr ar far y maes cyn dechrau ar noson arall o yfed ei hochr hi i gyfeiliant y gerddoriaeth gyfoes orau sydd gan y Gymraeg i’w chynnig. Ac nid campiwrs Maes B yn unig sydd â siâp niwlog felly i’w dyddiau.

Daeth dechrau calonogol i’r wythnos wrth i bob tocyn gael ei werthu ar gyfer gig yn y Thomas Arms ar y Sadwrn cyntaf, gyda Jamie Bevan yn cynhesu’r ystafell i’r hedleinar gael mynd yn ail. Yn union fel y gwnaeth flwyddyn yn ôl mi aeth Meic Stevens i lawr ar y rhaglen gan adael Neil Rosser i orffen. Ar ben y ffaith ei fod eisiau noson dda o gwsg bellach, tebyg fod Swynwr Solfach yn ddigon hirben i sylweddoli ei bod yn haws cau cegau pobl gyda pheint neu dri’n llai ynddynt, er iddo, yn ôl ei arfer, fwrw ei lid ar y rhai oedd yn siarad yn y bar. A llawn oedd gigs nesaf Cymdeithas yr Iaith hefyd. Bu Crys yn ei waldio hi yng Nghlwb Rygbi’r Ffwrnes ar y nos Lun, gan beri ychydig o ddryswch ymysg ffans ifanc Y Bandana, Y Reu a Castro gyda roc a oedd mor hen ffasiwn i’w clustiau nes ei fod yn brofiad hollol newydd. Roedd y Thomas Arms yntau dan ei sang yn gig Steve Eaves a Geraint Løvgreen ar y nos Fawrth. Mae disgwyl i Eaves ei hoelio hi bob tro, ond roedd egni arbennig ganddo i ddilyn y parti o berfformiad a gafwyd gan Løvgreen gyda’i lwyth hegar newydd o ganeuon yn lambastio’r cambihafwyr-bwysigyddion cyfoes dros sylfaen o’r hen glasuron, a hynny ar ôl derbyniad gwresog i set sgleiniog Siddi. A gwresog oedd hi yno’r noson wedyn yn ogystal wrth i Ail Symudiad barhau â’u haf prysur yn dilyn cyhoeddi eu cyfrol o atgofion.

Y nos Fercher oedd noson gyntaf Maes B hefyd, a chafwyd gig ychwanegol annisgwyl wrth i’ch gohebydd a’i gymdeithion dreulio awren dda ar falconi eu fflat ger y môr yn gwrando ar set Yr Ods a oedd yn glir fel grisial er eu bod yn chwarae o leiaf dair milltir i ffwrdd. Amheuwyd bod y dyn sain clodwiw Aled Ifan yn refio’r system i’r eithaf, ond dysgodd eich gohebydd ychydig o wyddoniaeth – gan fod y llanw i mewn roedd y sain yn bownsio’n syth o’r dwr i’r dre yr ochr arall, gan wylltio mamau plant cyndyn-o-gysgu a oedd eisiau gwybod beth oedd y cyffro.

Doedd dim smic i’w glywed oddi yno’r noson wedyn gan fod y llanw allan (does bosib fod Aled Ifan wedi derbyn cerydd yr awdurdodau lleol). Y Ffug oedd yr enw poeth y tro yma. Roedd bygwth perfformiad gan y rhain a fyddai’n eu taflu i gae’r bois mawr ers tro, ac mi ddaeth. Yn wir, roedd dau neu dri mynychwr profiadol yn mynnu mai dyma’r peth gorau iddynt ei weld ym Maes B erioed.

Lle sydd wedi mynd o o nerth i nerth ers ei sefydlu yn 2013 ydi Caffi Maes B a oedd yn orlawn drwy’r wythnos fwy neu lai. Roedd y sesiynau yn amrywio o set annisgwyl gan ddau aelod o’r Trwynau Coch i’r ddadl ddigri am y degawd gorau yn hanes canu cyfoes Cymraeg (er fod Rhys Mwyn, un o aelodau’r panel, wedi llwyddo i flogio am ei siom yn y digwyddiad fel petai o’r peth pwysicaf ers treialon Nuremberg) a’r perfformiadau gan fandiau newydd sefydledig fel Swnami a Candelas ynghyd ag ambell i syrpreis fel Jessop a’r Sgweiri. Dyma fand sy’n bygwth na fydd unrhyw gigs eraill o hyn ymlaen, ond mae’n debyg mai’r rheswm am hynny yw nad oes neb yn cynnig. Does dim ffryntman na band parti gwell. Drefnwyr, ewch ar eu holau canys bydd yn drychineb os gadewir i’r band yma farw.

Plesio’n arw hefyd a wnaeth Saron, y ddeuawd hynod ifanc eu gwedd o’r ‘saithdegau’, a’u geiriau fel ‘Cân ddigalon yw hon am boen a phethau felly’ yn cyfuno doniolwch a chanu sicr, hyderus. Roedd ffordd agos-atoch-chi, hen ffasiwn Siân, Siwan ac Elfed wrth gyflwyno’u caneuon soniarus yn edliw inni oes gynhesach rywsut.

Hefin Jones
Mwy

Twyll llwyddiannus clasur ‘Cymraeg’

Gerwyn Wiliams

Ar raglen ar S4C yn ddiweddar datgelwyd fod gwaith y credid tan hyn ei fod yn nofel Gymraeg wreiddiol am y Rhyfel Mawr mewn gwirionedd yn addasiad o lyfr Saesneg. Yr un a wnaeth y darganfyddiad, a chyflwynydd y rhaglen, sy’n cymharu’r ddau lyfr ac yn trafod ambell gwestiwn amserol sy’n codi yn sgil y gymhariaeth honno. Adroddir yr hanes yn llawn mewn rhagymadrodd i argraffiad newydd o Gwaed Gwirion.

Byddai’n anodd peidio â thynnu cap yn edmygus i’r diweddar Emyr Jones a aeth i’w fedd yn 1999 gan wybod bod ‘cyfrinach’ Gwaed Gwirion (1965) wedi ei chadw. Dim ond yn ddiweddar y datgelwyd bod yr hyn a ystyriwyd ers ei chyhoeddi gyntaf bron hanner canrif yn ôl yn nofel orau’r Rhyfel Byd Cyntaf yn Gymraeg – aeth Tecwyn Lloyd mor bell â’i disgrifio fel yr ‘unig wir nofel ... am ryfel yn Gymraeg’ ar dudalennau’r cylchgrawn hwn yn 1969 – mewn gwirionedd yn gyfaddasiad o hunangofiant milwrol a gyhoeddwyd yn Saesneg yn 1930. Hell on Earth gan y Preifat F. Haydn Hornsey yw’r sail ar gyfer y gyfrol Gymraeg, a chyda’r naill bellach ar gael yn rhwydd fel e-lyfr ar wefan Amazon a’r llall mewn argraffiad newydd sbon, gall y chwilfrydig gymharu’r ddau destun wrth eu pwysau.

Does dim modd osgoi’r ergyd foesol yn yr enw ‘llên-leidr’. Swnia plagarist rywsut yn grandiach a llai cyhuddgar, er bod tarddiad Lladin y gair hwnnw’n cyfeirio at un sy’n herwgipio plentyn neu gaethwas rhywun arall. Ond golyga’r datgeliad hwn fod rhaid ailystyried safle Emyr Jones fel awdur gwreiddiol a chreadigol. Nid ef a ddyfeisiodd Gwaed Gwirion o’i ben a’i bastwn ei hun wedi’r cyfan, ond yn hytrach, yr hyn a wnaeth oedd addasu stori wir Haydn Hornsey a’i chyflwyno’n gamarweiniol fel nofel hanesyddol o safbwynt cymeriad a alwodd yn ’Rhen Sarjant. Os oes gwreiddioldeb a chreadigrwydd yn dal i nodweddu Gwaed Gwirion – ac fe ddadleuwn i o blaid hynny – yna yn ei mynegiant y canfyddir hynny bellach. Ac os yw’r testun yn teilyngu statws clasur – ‘dyma ryfel 1914–18 wedi cael ei epig yn Gymraeg,’ chwedl neb llai na Saunders Lewis – yna rhaid seilio’r achos dros hynny ar y gamp o gyfaddasu ysbrydoledig a geir ynddo.

Cymharer, er enghraifft, y mynegiant o ryddhad a deimla Dan a Meic a Chopper pan ddônt o hyd i babell i gysgu ynddi yn Gwaed Gwirion gyda’r hyn a geir yn Hell on Earth: ‘mi suddon i mewn i’r gwellt fel cathod mewn tas wair’; ‘So far this was the best bed we had had since we came out to France’. Onid mwy diddorol yw’r gyffelybiaeth ddomestig a chartrefol yn y trosiad Cymraeg? Onid bywiocach yw’r elfen o hiwmor yn y Gymraeg o gymharu â’r syndod plaen yn y Saesneg mewn enghraifft arall? ‘“Good God – Chester a Corporal!” I exclaimed as I looked at Bill in amazement, he at the same time looking at me simply staggered’; ‘“Chopper yn gorp’ral! Pan glywan nhw’r newydd yn Berlin mi fyddan yn lluchio’r tywal i mewn ar unwaith ac yn crefu am heddwch!”’

Gerwyn Williams
Mwy

Geiriau a Gormes

Beca Brown

Fel rhywun sy’n gwirioni ar eiriau, mae gofyn cofio beth ydi grym gair, a mwy na hynny ’w’rach, beth ydi grym gair anghywir. Hanner yr hwyl wrth ysgrifennu ydi cael chwarae efo geiriau – creu cyfuniadau annisgwyl neu anghydnaws ac adeiladu ergyd brawddeg wrth roi’r union air yn yr union le, neu drio beth bynnag. Mae rhywun yn cael y cyfle i ’sidro wrth sgwennu – tafoli geiriau a phenderfynu beth i’w ddweud a sut i’w ddweud o, ac i saernïo swn y dweud. Gellir datgymalu brawddeg a’i gwnïo hi ’nôl mewn edau o liw gwahanol.

Tydi’r un moeth ddim gan y sawl sy’n siarad neu areithio, ac mae hi’n llawer haws mynd i ddwr poeth wrth i lifeiriant o eiriau gario ambell i garreg fwy eger na’r disgwyl pan fydd  rhywun yn mynd i hwyl. Gwell ’w’rach i’r penboeth aros wrth y gliniadur yn hytrach na mentro o flaen cynulleidfa...
Ond ai dyna’r math o fywyd cyhoeddus ’dan ni isho? Rheseidiau o bobol lugoer sydd ofn tanio gormod rhag ofn iddyn nhw ddweud rhywbeth o’i le? Yn yr Eisteddfod eleni ro’n i’n cerdded y maes ac mi es i heibio i babell ble roedd cân Y Trwynau Coch, ‘Niggers Cymraeg’, yn chwarae. Mi wnes i feddwl yn syth am hanes Myfanwy Alexander, a ymddiswyddodd o gabinet Cyngor Powys ar ôl iddi ddefnyddio’r gair ‘N’ wrth drafod y driniaeth wael y mae cleifion o Gymru, yn ei golwg hi, yn ei chael mewn ysbytai dros y ffin. Cyn ymddiswyddo mi ymddiheurodd am ddefnyddio’r gair, gan esbonio ei bod wedi ei ddefnyddio ar ôl darllen disgrifiadau Maya Angelou o annhegwch y system iechyd yn America. Hynny yw, doedd hi ddim yn defnyddio’r gair mewn ffordd hiliol, ond yn hytrach yn ei ddefnyddio i ddisgrifio sefyllfa lle mae pobol, yn ei thyb hi, yn cael eu gormesu.

Nid Myfanwy Alexander yw’r gyntaf o bell ffordd i ddwyn cymhariaeth rhwng y driniaeth o Gymry – a Chymry Cymraeg yn arbennig – a’r driniaeth o bobol dduon. Roedd y poster ‘Nigger Boy, John Boy, Cymro’ yn boblogaidd iawn ar un cyfnod, ac rydan ni’n hen gyfarwydd â chlywed mewnfudwyr i Gymru yn cael eu disgrifio fel ‘white settlers’. Wrth gwrs, mae’r gair ‘N’ yn symbol o bopeth sy’n erchyll am hiliaeth, ac mae’r sawl sy’n ei ddefnyddio, waeth be fo’r cyd-destun, mewn peryg o beri loes anferth i bobol eraill. Ond wedi dweud hynny, mae’n rhaid edrych ar fwriad geiriau hefyd.

Beca Brown
Mwy

Materion y Mis – Haf Cythryblus yn y Dwyrain Canol

Pedr Jones

Taflodd dau argyfwng yn y Dwyrain Canol gysgod enfawr dros yr haf – y rhyfel diweddaraf yn Gaza rhwng Israel a mudiad Hamas, ac ymgyrch waedlyd y Wladwriaeth Islamaidd (IS, neu ISIS) yn Irac. Newidiodd y cyntaf fawr ddim, tra mae’r ail wedi gweddnewid rhagolygon yr holl ranbarth.

Lansiodd Israel gyrchoedd yn erbyn Gaza ddwywaith o’r blaen, yn 2008–9 a 2012, i atal ymosodiadau gan daflegrau Hamas ar ei dinasoedd a’i threfi. Gwanychu Hamas am sbel yw’r cyfan y mae Israel wedi’i gyflawni bob tro. Y gwir yw na all Israel, er gwaetha ei holl nerth milwrol, drechu Hamas unwaith ac am byth. Dim ond dulliau politicaidd a diplomyddol all ddatrys y broblem. Os na chawn gytundeb o’r fath, rydym yn rhwym o weld gwaed yn llifo yn Gaza eto rywbryd.

Ar y llaw arall, mae datblygiadau yn Irac (a Syria drws nesa) wedi creu realiti newydd gyda goblygiadau hollbwysig nid yn unig i’r Dwyrain Canol ond i’r Gorllewin hefyd. Ymffrostiodd yr IS ei fod wedi dileu Cytundeb Sykes-Picot, y cynllwyn rhwng Prydain a Ffrainc yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf a arweiniodd at sefydlu gwledydd modern Syria ac Irac. Ac mae’n wir fod y gwladwriaethau hynny i raddau helaeth wedi diflannu bellach. Methodd y gwrthryfel â disodli Bashar Assad, ond dim ond parthau gorllewinol Syria y mae ef yn eu rheoli erbyn hyn. Mae’r IS wedi concro’r rhan fwya o weddill y wlad (gan gynnwys meysydd olew yn y dwyrain). Cafodd yr elfen fwy cymedrol ymysg y gwrthryfelwyr, fel Byddin Rhydd Syria, ei thagu rhwng lluoedd Assad a’r IS, ac mae hi ar fin cael ei llwyr drechu.

Ym mis Mehefin defnyddiodd yr IS ei droedle yn Syria i feddiannu darn enfawr o orllewin Irac, hyd at drothwy Baghdad ac Arbil, prifddinas Rhanbarth Ymreolaethol Cwrdistan. Gyrrwyd allan o’u cartrefi hynafol yng ngogledd y wlad ryw 1.2 miliwn o bobl, y rhan fwya ohonynt yn aelodau o’r lleiafrifoedd Cristnogol a Yazidi. Os na fydd y trueiniaid hyn yn cael lloches mewn gwledydd gorllewinol bydd angen eu cynnal mewn gwersylloedd ffoaduriaid yng Nghwrdistan a Thwrci am flynyddoedd i ddod. Dyma’r realiti newydd cyntaf y mae’n rhaid dygymod ag ef.

Pedr Jones
Mwy

Prifwyl ddramatig – Cloriannu Theatr Eisteddfod Sir Gâr

Gruffudd Owen

Mewn cwt ac mewn caffi ar y maes, mewn awditoriwm ac mewn stiwdio deledu – roedd sioeau a gweithgareddau theatr yr Eisteddfod eleni yn digwydd ar hyd y lle i gyd, gan gadw ein gohebydd ar flaenau ei draed, ond yn hapus.

Mae darpariaeth theatr yr Eisteddfod yn mynd o nerth i nerth bob blwyddyn, ac eleni gwelwyd datblygiad cyffrous arall ar y maes sef codi gofod perfformio newydd gan y Theatr Genedlaethol o’r enw Y Cwt Drama. Yn hwn y llwyfannwyd nifer o ddarlleniadau ‘gwaith ar waith’ y cwmni, sef darlleniadau sgript mewn llaw o waith sydd wrthi’n cael ei ddatblygu ganddynt gyda chyfle i’r gynulleidfa roi adborth. Yn y Cwt Drama hefyd y llwyfannwyd Dwr Mawr Dyfn (cyd-gynhyrchiad y Theatr Genedlaethol, Sherman Cymru a’r Eisteddfod) gan Glesni Haf Jones, drama fuddugol cystadleuaeth y Fedal Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Ddinbych y llynedd. Drama ddwys a dirdynnol yw hon sy’n adrodd hanes Tryweryn, merch ifanc sy’n ei boddi ei hun yn y llyn a roddodd iddi ei henw a chafwyd perfformiad ysgytwol gan Manon Vaughan Wilkinson yn y brif ran. Efallai fod y ddrama yn ceisio ymdrin â gormod o themâu trymion, megis hunanladdiad, llosgach, marwolaeth plentyn a salwch meddwl, ac yn gwegian braidd dan straen yr holl ddigalondid. Ond mae gan Glesni yn sicr ddawn i sgriptio a chymeriadu, ac edrychaf ymlaen at weld mwy o waith ganddi yn y blynyddoedd i ddod. Rhaid canmol y Theatr Genedlaethol am roi llwyfan teilwng i enillwyr y gystadleuaeth bwysig hon. Llongyfarchiadau hefyd i Dewi Wyn Williams ar ennill y Fedal Ddrama eleni. Gobeithio y bydd ei waith yntau’n cael ei berfformio yn fuan.

Ar y dydd Llun gwelais Sharon Morgan a T. James Jones yn darllen detholiad o Dan y Wenallt, addasiad newydd yr olaf o Under Milk Wood. Gwyr pawb fod Sharon Morgan yn actores ragorol, ond wyddwn i ddim tan hyn fod T. James Jones yn actor cyfareddol hefyd. Profodd y darlleniad hwn nad i’r ifanc a’r ystwyth o gorff yn unig y perthyn y theatr Gymraeg, ac y gall gwylio dau actor hyn yn darllen clasur o addasiad fod yn brofiad cyfoethog iawn i gynulleidfa.

A’r Eisteddfod yn ymweld ag ardal Llanelli, mae’n addas iawn fod y Theatr Genedlaethol wedi penderfynu ail-lwyfannu Dyled Eileen. Mae teitl y ddrama rymus hon nid yn unig yn cyfeirio at y ddyled y gwrthododd dau o gyn-drigolion y dref, Eileen a Trefor Beasley, ei thalu, ond hefyd y ddyled sydd arnom ni fel Cymry iddyn nhw am iddynt frwydro ac aberthu dros gydnabyddiaeth swyddogol i’n hiaith. Gwelsom y gwr a’r wraig angerddol ond annwyl yn dechrau ar eu bywyd priodasol drwy hel eu dodrefn ynghyd, dim ond i’r beili ddod a hawlio’r cyfan a gadael eu hystafell fyw mor foel ag Ystafell Gynddylan. Mae’r ddrama dyner hon yn deyrnged deilwng i frwydr y Beasleys ac roedd yn werth ei hail-lwyfannu.

Un o gynyrchiadau mwyaf arbrofol yr Eisteddfod eleni oedd cynhyrchiad cwmni Pluen o Llais gan yr awdur ifanc Elgan Rhys Jones. Sioe un dyn ddieiriau ond egnïol oedd hon yn archwilio thema bwlio; cawsom olwg ysgytiol ar y gwewyr seicolegol hir dymor y gall bwlio ei achosi ac un o negeseuon y cyflwyniad oedd bod rhaid torri ar y patrymau negyddol hyn os am ddianc o’r cylch dieflig. Mae’n hynod o anodd creu sioe ddieiriau ac iddi naratif pendant; ac er i’r sioe hon gloffi a gogor-droi ar brydiau roedd yn gyflwyniad dirdynnol a heriol gan gwmni theatr ifanc a chyffrous. Edrychaf ymlaen at weld mwy ganddynt yn y dyfodol.

I mi, un o uchafbwyntiau’r wythnos oedd Garw, cynhyrchiad Theatr Bara Caws o ddrama newydd Siôn Eirian.

Gruffudd Owen
Mwy