Medi 2017 / Rhifyn 656

Cofio Tony Bianchi (1952–2017)

Sais balch oedd Tony Bianchi, un o Tyneside yng ngogledd-ddwyrain Lloegr. Ond ysgrifennodd ei nofelau a’i straeon yn Gymraeg, a hynny mewn dull llawn idiomau cyfoethog a chystrawennau bachog. Siaradai ei ail iaith yn gwbl naturiol a rhugl heb arlliw o lediaith a chyda hyder trawiadol yr ysgolhaig. Dim ond pan siaradai ei famiaith neu ganu caneuon gwerin ei ardal enedigol y clywid acen y Geordie. Eto i gyd, ni wadodd ei wreiddiau Seisnig na chymryd arno ei fod yn Gymro.
Cafodd ei eni yn North Shields yn 1952 a’i fagu yno, yn fab i heddwas o dras Eidalaidd ond ni chafodd berthynas hapus gyda’i dad a gwrthryfelodd yn erbyn ei ffydd Babyddol, gan droi’n anffyddiwr yn nes ymlaen. Yn yr ysgol, lle'r oedd y canwr Sting yn gyd-ddisgybl, daeth gallu academaidd Tony i’r amlwg yn gynnar, a throdd yn y chweched dosbarth at wleidyddiaeth y Chwith. Marcsiaeth a’i denai’n bennaf am weddill ei oes...

Meic Stephens
Mwy
Prif Erthygl

Brexit a hunaniaeth genedlaethol

Mae dadansoddiad o’r bleidlais yn y refferendwm ar aelodaeth y Deyrnas Gyfunol o’r Undeb Ewropeaidd, dadansoddiad sy’n seiliedig ar waith ymchwil criw ohonom ym mhrifysgolion Caerdydd a Chaeredin, yn rhoi sylw i’r modd y pleidleisiodd pobl yn Lloegr, yr Alban a Chymru. Mae’r data ar Loegr yn tanlinellu’r cysylltiad clos rhwng Seisnigrwydd ac Ewrosgeptiaeth, gan awgrymu’n gryf ei bod hi’n hen bryd i ysgolheigion sy’n ymddiddori mewn agweddau gwleidyddol a phatrymau pleidleisio yng Nghymru a’r Alban ddechrau gwahaniaethu rhwng Seisnigrwydd a Phrydeindod yn ein gwaith. Yn draddodiadol rydym yn eu cyfystyru â’i gilydd, ond ar fater Ewrop o leiaf, mae’r dystiolaeth o Loegr yn dangos bod Seisnigrwydd a Phrydeindod yn gysylltiedig ag agweddau gwahanol. Gyda chynifer yng Nghymru, yn arbennig, yn coleddu hunaniaeth Seisnig (13% yn ôl cyfrifiad 2011), onid yw’n bryd archwilio’r posibilrwydd fod ’na dri phegwn i batrymau hunaniaeth genedlaethol, sef Cymreictod/Albaniaeth, Prydeindod a Seisnigrwydd, oll yn bodoli mewn gwahanol gyfuniadau?...

Richard Wyn Jones
Mwy

Cwis i'n darllenwyr

Gan nad oes neb wedi llwyddo i gael holl atebion y cwis yn gywir, mae’r dyddiad cau wedi ei ymestyn i ddydd Llun 18 Medi.  Atebwch y cwestiynau canlynol am gyfle unigryw i ennill clogyn (wrap) cashmir gwerth £150 gan gwmni Corgi o Rydaman i’ch cadw’n gynnes bob tymor.

  1. Beth barodd am bedair blynedd yn unig? 
  2. Pwy alwodd heibio’r tŷ ar drothwy’r Etholiad Cyffredinol? 
  3. Beth yn benodol yw Weissburgunder?
  4. Beth oedd yn nodweddu Hollywood yn y 1950au? 
  5. Pwy yw’r artist cudd? 
  6. Pwy oedd y ddwy seren Gymraeg eu hiaith welwyd yn troedio llwyfan Canolfan y Mileniwm yn ddiweddar? 
  7. Pwy gipiwyd ar gamera yn coluro’u hwynebau? 
  8. Pam na allai’r bardd gorau ddod i’r Eisteddfod ddeg a phedwar ugain o flynyddoedd yn ôl? 
  9. Beth sefydlodd O. J. Williams pan oedd yn ysgol Harrow? 
  10. Faint o dwf fyddai ei angen yn nifer y plant sy’n derbyn addysg Gymraeg i gyrraedd nod y llywodraeth o filiwn o siaradwyr? 
  11. Beth oedd y peth gorau brofodd Lowri Cooke ar y Llofft? 
  12. Beth yw arwyddocâd 14 Mawrth?   
  13. Pwy fu’n mynychu’r un dosbarth Pilates? 
  14. Pwy sy’n dathlu pen-blwydd eleni?
  15. Beth sy’n creu teimlad o anesmwythyd?

Mae modd dod o hyd i’r atebion drwy ddarllen rhifyn Gorffennaf/Awst o BARN, sy'n dal yn y siopau neu ar gael drwy danysgrifio ar y wefan hon i’r cylchgrawn ar-lein. 
 
Anfonwch eich atebion i Swyddfa Barn, Y Llwyfan, Caerfyrddin, SA31 3EQ gyda’ch enw a’ch manylion cyswllt, neu at swyddfa@barn.cymru. Bydd yr atebion, ac enw’r enillydd, yn rhifyn Hydref.

Mwy

Gwyliau – o fath

Tydw i ddim yn or-hoff o’r haf. Nid yr haf ei hun fel y cyfryw, ond yn hytrach wyliau’r haf pan fo Joel adref o’r coleg. Mae’r saith wythnos hynny fel cwrs ymosod sy’n rhaid ei dramwyo’n ofalus rhag sathru ar ffrwydron. (Maddeuwch i mi os ydi hyn o lith yn swnio’n ailadroddus, ond dyma realiti ein bywyd ni.)
Mi ddechreuodd pethau’n annisgwyl o dda. Pythefnos o heddwch a hwyliau da, a minnau wedi cael hel fy nhraed yn ddigon aml cyn hynny fel na theimlwn wedi fy nghaethiwo’n ormodol, yn enwedig â’r gyfres heddlu Wyddelig Red Rock yn ôl i’m diddanu gyda’r nosau.
Ganol Mehefin roeddwn i a’r cymar wedi mwynhau wythnos ym Malta, ynys ac iddi hanes rhyfeddol, o longddrylliad yr Apostol Paul yn OC 58 i’r gwarchae a barodd iddi gael ei bomio’n fwy na nunlle arall yn ystod yr Ail Ryfel Byd, gyda’r olygfa ddigymar o brifddinas hynafol Valletta o lannau Sliema...

Elin Llwyd Morgan
Mwy
Materion y mis

Plwyfoldeb y cyfryngau Llundeinig

Yr unig adegau y bydd ystafelloedd newyddion Llundain yn dod o hyd i’r Gymraeg yw pan fyddant am wneud hwyl am ben yr hyn sydd yn eu golwg nhw yn rhyfedd, neu’n egsotig, neu’n gwyro oddi wrth y norm ieithyddol Saesneg. Y storïau na chânt eu hadrodd yw’r rhai am yr amrywiaeth siaradwyr Cymraeg; am lwyddiant addysg ddwyieithog; y ffaith mai dwyieithrwydd yw’r norm yn Ewrop a thu hwnt; a llwyddiant gwleidyddol y polisi i feithrin y Gymraeg dros y trigain mlynedd diwethaf...

Leighton Andrews
Mwy
Adolygiadau

Déjà vu neu Hen Wynebau

Dim ond cip sydyn ar y rheseidiau sydd gen i adre o’r Cyfansoddiadau (Llys yr Eisteddfod, £10) oedd ei angen i gadarnhau bod cyfrol eleni yn dewach na phob un o’i rhagflaenwyr. Ond er bod iddi 117 yn rhagor o dudalennau na chyfrol y llynedd arhosodd y pris yr un fath. Ysywaeth, nid y pris yw’r unig beth sydd gan gyfrol Môn yn gyffredin â chyfrol y Fenni. Flwyddyn union yn ôl ar y tudalennau hyn disgrifiais fy hun ‘fel un o anoraciaid mwyaf nerdaidd y Cyfansoddiadau’. Cyfaddefais, serch hynny, ‘gyda phryder a gofid’, fod y gyfrol flynyddol hon yn dechrau ‘mynd fymryn yn ddiflas’. Ac mae’n loes calon gen i ddweud mai parhau eleni eto mae’r duedd honno, yn fy marn i. Atgyfnerthwyd y gred a fynegais y llynedd fod dybryd angen ailedrych ar yr amrediad o gystadlaethau a ddewisir...

Vaughan Hughes
Mwy

Barn

Mwy

O Eden i Lleden

Ar Sul ola’r Brifwyl, roeddwn i ymhlith y cannoedd o bobl oedd yn sownd yn nhraffig ôl-Eisteddfod yr A55. Dwi’n casáu bod mewn ciw ceir ond ar y prynhawn Sul hwn roedd rhywbeth yn rymus yn y llifeiriant carafannau a cheir oedd yn llawn dop o sachau cysgu a chlustogau. Brawdoliaeth fawr yn dychwelyd adref oeddem ni, brawdoliaeth oedd wedi profi rhywbeth nad oedd y ceir ar ochr arall y ffordd ddeuol yn ei ddeall. Roeddwn i wedi blino’n lân, doedd gen i ddim math o lais ond yn y cof roedd ’na sŵn. Sŵn sgyrsiau hwyr, sŵn chwerthin, sŵn archebu’r rownd nesaf ac yn gyfeiliant i hynny sŵn cerddoriaeth o bob math. Bu cwyno yn y gorffennol am y diffyg llwyfan i gerddorion Cymraeg ond problem yr Eisteddfod eleni o bosib oedd bod gormod o lwyfannau – problem braf wrth gwrs, un oedd yn dangos sîn mor amrywiol a chyffrous a diawchedig o wych sydd gennym...

Marged Tudur
Mwy