Triciau budr etholiad Zimbabwe – Michael Bayley Hughes
Mapiau iaith – mapiau anghyflawn? – Rhys Jones
Effaith y toriadau addysg – Dafydd Fôn Williams
Morfydd a Mahler yn y Proms – Geraint Lewis
Cloriannu’r Eisteddfod – Ceridwen Lloyd-Morgan, Einion Dafydd, Wyn Mason, Caryl Bryn, Meg Elis, Vaughan Hughes, Simon Brooks, ac Andrew Misell
Cofio Meic Stephens ac Alwyn Roberts – M. Wynn Thomas/Vaughan Hughes/Derec Llwyd Morgan
...a llawer mwy. Mynnwch eich copi nawr.
Medi 2018 / Rhifyn 668
Cip ar weddill rhifyn Medi

Llawenhau a rhybuddio
Pwy fasa wedi betio yn erbyn Huw Thomas, arweinydd Cyngor Caerdydd, yn sbwylio Steddfod dda? Pob clod i Gymry’r ddinas; gwireddwyd gweledigaeth Iwan Llwyd o gynnal y brifwyl mewn cymuned, ar y stryd ac nid mewn cae, yn gampus. Cafwyd cynwysoldeb; o ran rhywioldeb yn ôl y cynllun ardderchog, ‘Mas ar y Maes’, ac roedd lleiafrifoedd gweladwy yn weladwy mewn niferoedd sylweddol am y tro cyntaf erioed.
Adlewyrchwyd pwysigrwydd ein diwylliant dinesig Cymraeg. O Gaerdydd y deuai pob un o’r prif fuddugwyr llenyddol ac eithrio Manon o Dywyn. Nid oeddwn yn synnu fod Huw Jones, cadeirydd Awdurdod S4C, yn cyfeirio mewn sesiwn drafod at Gymru ‘Islwyn Ffowc Elis’. Meddylier am y weledigaeth yn Wythnos yng Nghymru Fydd o Gymru Gymraeg ffyniannus, fyrlymus a deniadol, a llond y lle o Gymry ifanc rhywiog; cafwyd honno eleni ym Mae Caerdydd. Ond mae yna weledigaeth arall yn Wythnos yng Nghymru Fydd, a honno’n un ddystopaidd.

Gornest arlywyddol Iwerddon
Y mis dwytha fe welsom ni’r eglwys yn dangos ei bod hi ymhell o fod yn barod i ildio ei lle a’i dylanwad ym mywyd Iwerddon, wrth i’r Pab Ffransis ymweld â’r ynys, gan ddenu cannoedd o filoedd o bobl i’w weld a’i glywed yn Nulyn ac yng nghysegrfa Knock yng ngorllewin y wlad. Ydi, mae Iwerddon wedi newid yn aruthrol ers yr ymweliad Pabaidd dwytha yn 1979. Ond dydi hi ddim wedi newid yn gyfan gwbl: mae gwreiddiau Pabyddiaeth yn ddwfn yma, ac mae sioe fawr gan yr Eglwys yn dal i ddenu’r tyrfaoedd. Yr achlysur mawr nesaf fydd yr etholiad arlywyddol ym mis Hydref, ac mi fydd hi’n ddiddorol gweld beth fydd effaith y newidiadau sydd wedi bod yn yr hinsawdd wleidyddol ers i’r Arlywydd Michael D. Higgins gael ei ethol saith mlynedd yn ôl.

Cwis rhifyn Steddfod
Cofiwch fod amser eto i chi roi cynnig ar y Cwis yn rhifyn Gorffennaf/Awst. Cyfle i ennill gwobr, sef crochenwaith gan Rhiannon Sparks o Gaerfyrddin. Anfonwch eich atebion erbyn 5 Medi.

Plaid Cymru: Pobi’r bara ynteu’r burum yn y dorth?
Wrth ddwyn i gof Phil Williams, un o feddylwyr praffaf a galluocaf y mudiad cenedlaethol, ‘seicedelig o optimistaidd’ yw disgrifiad yr awdur o ragolygon y Blaid o ennill ugain heb sôn am y mwyafrif o seddau yn y Senedd oni ellir darbwyllo Llafur i gofleidio annibyniaeth.
Dros yr wythnosau nesaf bydd aelodau Plaid Cymru yn pwyso a mesur pa un o’r tri ymgeisydd ar gyfer arweinyddiaeth eu plaid y dylent ei gefnogi, gyda’r canlyniad terfynol i’w gyhoeddi ddiwedd y mis. Yn naturiol fe fydd gwahaniaethau barn a – siŵr o fod – pegynnu rhwng gwahanol garfanau. Dyna ydi natur gornestau o’r fath. Ond, a cheisio cymryd cam yn ôl, y gwir amdani yw bod Leanne Wood, Adam Price a Rhun ap Iorwerth ill tri yn ymgeiswyr credadwy a chryf. Llwyddodd pob ohonynt i adeiladu pleidlais bersonol fawr yn eu hetholaethau unigol gan eu profi eu hunain hefyd, yn eu gwahanol ffyrdd, yn gyfathrebwyr rhwydd ar lwyfan ehangach.
Mae’n wir hefyd nad oes rhyw fwlch ideolegol mawr yn eu gwahanu chwaith. Efallai fod y pwyslais rhethregol yn amrywio i ryw raddau, ond o ran polisïau go brin fod gwahaniaeth ystyrlon o gwbl. Mae’r tri yn ymddangos i mi fel democratiaid cymdeithasol Llychlynnaidd digon uniongred. Ac mae ’na bethau gwaeth o lawer na hynny!

Y Cyfansoddiadau – adolygiad
Yr enillwyr ddylai, yn enw pob rheswm, gael y lle blaenaf mewn adolygiad o’r Cyfansoddiadau. Anodd, fodd bynnag, yw peidio nodi ar y cychwyn mai eleni oedd y pumed tro i Eurig Salisbury ddod yn ail am y Gadair. Mae fy Sherlock Holmes barddol blynyddol yn fy sicrhau, nid yn annisgwyl, fod hynny’n record. Ond ennill y Gadair ar y cynnig cyntaf fu hanes Gruffudd Owen, efo awdl sy’n darllen yn rhyfeddol ac anhygoel o rwydd. Ond dyna ydi’r gamp yntê. Ac mae unrhyw un sy’n gallu gwneud i awdl o bob dim ymddangos yn ddiymdrech yn dipyn o ddewin geiriau.
(‘Ymddangos’, wrth gwrs, yw’r gair allweddol.) Doeddwn i fawr o feddwl wrth ganmol ei gerddi doniol a direidus yn f’adolygiad o ‘Bragdy’r Beirdd’ yn rhifyn yr Eisteddfod o BARN mai Gruffudd, parodïwr ‘Dau gi bach’ a ‘Rebel Wicend’, fyddai bardd cadair Caerdydd. Ond mae o’n wirioneddol deilwng ohoni.

Dyfodol amaeth
Mae ‘Brexit a’n Tir’ yn ddogfen flaengar a dewr, sy’n gosod amserlen i derfynu taliadau uniongyrchol i ffermwyr Cymru.Wrth ymadael â’r Undeb Ewropeaidd byddwn yn troi cefn ar y Polisi
Amaeth Cyffredinol ddiwedd Mawrth 2019, ac mae’r newid arfaethedig yn fwy chwyldroadol na dim a welwyd ers oddeutu 70 mlynedd.
Ers Deddf Amaeth llywodraeth Lafur 1947, mae amaethyddiaeth wedi derbyn cefnogaeth ariannol ar ffurf taliadau uniongyrchol mewn rhyw ffordd neu’i gilydd.Wedi i Brydain ymaelodi â’r Farchnad Gyffredin yn 1973, bu’r Polisi Amaeth Cyffredinol (PAC) yn cynnal cynlluniau o’r fath, gyda’r nod o ddiogelu cyflenwad o fwyd am bris rhesymol. Roedd egwyddor gymdeithasol gref y tu ôl i’r taliadau hefyd, gan gydnabod pwysigrwydd cadw ffermwyr ar y tir a thrwy hynny warchod cymunedau cefn gwlad rhag anwadalwch y farchnad rydd.

Hwn yw ’nghyffur, a ’nghyffion
Roedd yr arferiad wedi troi’n syrffedus braidd, fel slochian gwin a sglaffio byrbrydau fin nos o ran ’myrrath. Nid barusrwydd yn unig, ond yr ysfa honno sydd gan bob personoliaeth led gaethiwus i daro smotyn cynyddol anodd ei foddhau. Ac er synnu at ei ddawn gynganeddol ryfeddol, nid syndod mewn gwirionedd oedd darganfod fod bardd y Gadair eleni wedi teimlo rhywbeth tebyg. Sôn ydw i am yr arferiad o droi dragywydd at y Gweplyfr, a’r gafael sydd ganddo ar bobol gall a gwirion fel ei gilydd. Erbyn i’r golofn hon weld golau dydd, mae’n bur debyg y byddaf yn ôl arno, ond ar hyn o bryd mae gen i’r hyn a elwir yn Facebook Fatigue ac rydw i felly’n cymryd seibiant oddi wrtho.