Adolygiad o Cynan – Drama Bywyd Albert Evans Jones gan Gerwyn Wiliams (Y Lolfa, £19.99, allan ddiwedd Medi)
Nid yw llenorion degawdau agoriadol yr ugeinfed ganrif fel petaent am lacio’u gafael ar ddychymyg a sylw degawdau agoriadol yr unfed ar hugain. Gwelwyd yn y blynyddoedd diwethaf gofiannau i Owen Morgan Edwards, T. Gwynn Jones a T.E. Nicholas – ac mae eraill (i Ifor Williams ac R.T. Jenkins) ar y gweill. A dyma groesawu i’w plith y gyfrol hynod sylweddol a hynod ddarllenadwy hon am y ‘ffenomen unigryw’ hwnnw, Cynan.
Mae’n waith cyforiog. Dilynir y gwrthrych o’i gartref ym Mhwllheli i Goleg Bangor, ac oddi yno i Facedonia, lle gwasanaethodd fel caplan. Adroddir am ei fuddugoliaethau eisteddfodol, gan gynnwys y bryddest ‘Mab y Bwthyn’ yn 1921, a’i ymwneud â’r Eisteddfod Genedlaethol, fel Cofiadur ac Archdderwydd a phensaer ei seremonïau. Olrheinir ei hanes fel tiwtor a siaradwr cyhoeddus, fel pregethwr a dramodydd a sensor – ac, yn ystod ei flwyddyn lawn olaf y rhan flaenllaw a chwaraeodd yn hanes Arwisgiad ‘Croeso ’69’.