Rydw i’n dal i drio – ac yn methu – gwneud synnwyr o’r newyddion erchyll a ddaeth o Plymouth yn ddiweddar, pan laddwyd pump o bobol gan ddyn a oedd, mae’n debyg, yn arddel syniadaeth yr ‘incels’, neu ‘involuntary celibates’.
Dynion ydi’r rhain sy’n gweld bai ar ferched am y ffaith eu bod nhw’n sengl, ac maen nhw’n credu bod hawl ganddyn nhw i berthynas rywiol efo merch o’u dewis. Maen nhw’n ddig efo’r byd – ac efo merched yn bennaf – am ein bod, yn eu tyb nhw, yn dewis cymar ar sail edrychiad yn unig ac yn ymwrthod â dynion anneniadol. Ideoleg y ‘black pill’ ydi hyn, neu’r gred fod dynion anneniadol wedi colli’r loteri ar eu genedigaeth o ran bod yn olygus neu beidio, a’u bod nhw felly wedi eu tynghedu i fywyd sengl heb gyfle am gyfathrach rywiol.