Er bod arlwy’r eisteddfodau AmGen wedi gwneud gwaith neilltuol yn cadw’r fflam ynghyn am ddwy flynedd, credaf fy mod i’n siarad ar ran cenedl gyfan pan ddywedaf ei fod yn llawenydd i’r galon clywed yr hen gyfarchion mewn cae newydd: ‘’Dach chi yma am yr wsos?’, ‘Carafan ’ta pabell?’neu ‘Dwi angen wellingtons?’ A do, cafwyd croeso twymgalon gan Geredigion, croeso a sicrhaodd ein bod yn falch ein bod yn cael cyfle, os caf aralleirio Swnami, i ailuno, ailgydio ac aildanio.
Cafwyd arwydd o’r hyn oedd i ddod ar dudalen Instagram S4C ar y dydd Gwener cyntaf gan neb llai na Sage Todz yn ei grys pêl-droed Cymru, wrth iddo ganu ei fersiwn ei hun o ‘Yma o Hyd’ dan lythrennau mawr coch trawiadol yr ŵyl ar faes Tregaron. Dyma fersiwn newydd hypnotig a rhythmig o ail anthem y Gymru newydd gan artist cyffrous sy’n prysur wneud enw iddo’i hun. Ddeuddydd yn ddiweddarach, ar y nos Sul, tro’r fersiwn wreiddiol oedd hi i atseinio dros y wlad. Roedd bod o flaen Llwyfan y Maes ymysg un o dorfeydd mwya’r wythnos yn deimlad anhygoel.