Vaughan Hughes
Ellis Wynne, awdur Gweledigaeth Uffern, biau’r geiriau “Parliment Uffernol”. Neu’n hytrach, yn yr hinsawdd dryloyw bresennol, fe ddylwn i esbonio nad y Bardd Cwsg, fel y cyfryw, biau’r geiriau. Milton ddaru eu defnyddio nhw gyntaf yn Paradise Lost. Teitl hynod o addas dan yr amgylchiadau. Ond, diolch i’r Daily Telegraph, mae’r baradwys faterol lle preswyliai cynifer o’n cynrychiolwyr etholedig bellach wedi diflannu. Am byth, gobeithio. Sôn am foch â’u trwynau budr o’r golwg yn y cafnau! Ni all yr un ohonom gofio cyfnod erioed o’r blaen pan fu gwerin gwlad mor ddirmygus â hyn o wleidyddion. Ac o wleidyddiaeh. Dyma, yng ngolwg y mwyafrif ohonom, beth yw ‘Parliment Uffernol’ go iawn...