Mehefin 2011

Harri Pritchard Jones a’r busnes o greu saint… Cynog Dafis ac ysgolion gwledig… Vaughan Hughes a’r stori tu ôl i ganlyniad Llanelli… Will Patterson a llwyddiant yr SNP… Elin Llwyd Morgan a byd y gyrwyr tacsi… Kate Crockett a gwaith serameg sy’n gelf ac yn grefft… CD newydd Gwyneth Glyn… Teyrngedau i Islwyn Morris a W. J. Gruffydd…Gareth Miles yn lambastio ein diwylliant di-gic… Treuliwch y cyfan, a mwy, gyda Lyn Lewis Dafis yng Nghaffi’r Caban, Aberystwyth, a’i olchi i lawr gyda gwinoedd haf Shôn Williams.

 

Gair Yng Nglust y Blaid

Gerald Holtham

Mae’r awdur, brodor o Aberdâr, ynbartner yn Cadwyn Capital LLP ac yn aelod o banel ymchwil economaidd Llywodraeth Cymru. Ef hefyd yw Athro gwadd Ysgol Fusnes Caerdydd. Cynigiodd y sylwadau pryfoclyd hyn yn yn ddigymell i BARN .

Gerald Holtham
Mwy

Caffis Cymru : Y Caban, Aberystwyth

Lyn Lewis Dafis

Mae’n anoddach dychmygu sut le fyddai Aberystwyth heb gaffis na cheisio meddwl amdani heb ei Phrifysgol na’r Llyfrgell Genedlaethol hyd yn oed. Bu’r caffi yn rhan annatod o wead y dref i mi dros y 30 mlynedd a mwy ers dod i’w hadnabod. Bu’n lloches i genedlaethau o efrydwyr yn dianc o’u llety llaith a diflas, ond yn rhannu’r lloches honno gyda ledis y dref a ffermwyr y wlad o gwmpas.

Lyn Lewis Dafis
Mwy

Les Morrison (1956–2011)

Steve Eaves

Gwnaeth Les Morrison o Fethesda gyfraniad tawel ond cwbl allweddol i ddatblygiad y byd roc Cymraeg fel cynhyrchydd, cerddor a chyfansoddwr. Dyma deyrnged cyfaill iddo.

Steve Eaves
Mwy

Canmoler Carwyn – Ond Mae Pum Mlynedd Hynod Anodd O’i Flaen

Richard Wyn Jones

Bu Prif Weinidog Cymru yn ddigon hirben a gostyngedig i gydnabod na fydd llywodraethu heb fwyafrif yn hawdd. Ond, yn sgil ad-drefnu’r ffiniau etholaethol a’r diwygiadau posib i’r dull o ethol aelodau i’r Cynulliad, fe allai fod yn arweinydd ar lywodraeth leiafrifol â’i haelodau yng ngyddfau ei gilydd.

Richard Wyn Jones
Mwy

Dan Ganu: Holi Arwel Gruffydd

Menna Baines

Mae'n dod o Danygrisiau, daeth yn ail i Bryn Terfel am ganu unwaith, ac mae'n credu mewn chwarae gemau i gael y gorau allan o actorion. Bu BARN yn holi Arwel Gruffydd, cyfarwyddwr newydd Theatr Genedlaethol Cymru.

Menna Baines
Mwy