Mae oriau o ddeunydd darllen difyr yn eich aros yn y rhifyn diweddaraf. Yn ogystal â sylw i garreg filltir bwysig yng ngyrfa operatig ein ‘dyn clawr’, dyna erthygl Bethan Kilfoil am ‘Fudiad Dirwest Iwerddon’ (a na, nid jôc Wyddelig yw’r pennawd), golwg amgen Beca Brown ar yr hwdi, a myfyrdod Alun Ffred Jones ar y cwestiwn ‘Ble mae’n dramodwyr?’ Darllenwch am artist o Gymro yn Awstralia ac am waith Gethin Wyn Jones, cynorthwyydd i Damien Hirst wrth ei waith bob dydd ond arlunydd yn ei hawl ei hun hefyd sydd ar fin cael ei arddangosfa lawn gyntaf. Mae cyfarwyddwr cyffredinol Amgueddfa Cymru yn ymateb i gyhuddiad Gareth Miles fod y sefydliad yn un ‘Seisnig a Phrydeinllyd’. Ac yn nhymor yr arholiadau rhowch gynnig ar bapur wedi’i osod gan ein colofnydd chwaraeon, Derec Llwyd Morgan. Hyn a llawer mwy. Bachwch gopi.
Vaughan Hughes
Er fy mod i’n hoff iawn o bêl-droed doeddwn i ddim ar dân eisiau gwrando ar sylwebaeth rownd derfynol Tlws yr FA yn Wembley y mis diwethaf rhwng Casnewydd a Chaerefrog. Ond clywais gychwyn y gêm ar radio’r car a chael fy synnu a’m rhyfeddu gan ymateb chwyrn cefnogwyr Casnewydd i God Save the Queen. Dwi wedi clywed anthem y Saeson yn cael ei dirmygu cyn heddiw, wrth reswm. Ond nid gyda’r un lefel o ffyrnigrwydd mileinig a fynegodd Cymry Gwent tuag ati yng nghysegr sancteiddiolaf pêl-droed Lloegr.